
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Cychwyn a Darpariaeth Drosiannol) 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “cronfa enillion o warediadau” (“disposal proceeds fund”) yw cronfa o dan adran 24 o Ddeddf 1996;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018.
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 15 Mehefin 2018—
(a) adran 1 (trosolwg o’r Ddeddf);
(b) adran 2 (ystyr “Deddf 1996”); ac
(c) adran 18 (pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol pellach etc.).
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 15 Awst 2018—
(a) adrannau 3 i 5 (landlord cymdeithasol cofrestredig yn hysbysu am newidiadau cyfansoddiadol, etc.);
(b) adrannau 6 i 9 (pwerau sy’n arferadwy mewn cysylltiad â swyddogion a rheolaeth landlord cymdeithasol cofrestredig);
(c) adran 10 (pwerau sy’n arferadwy mewn cysylltiad ag ymchwiliadau etc.);
(d) adrannau 11 a 12 (hysbysiadau gorfodi a chosbau);
(e) adrannau 13 i 15 (gwarediadau tir);
(f) adran 16 ac Atodlen 1 (cyfyngiad ar aelodaeth awdurdodau lleol o fwrdd a hawliau pleidleisio); ac
(g) adran 17 ac Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).
4 

(1) Nid yw adran 15 o’r Ddeddf yn cael effaith, mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig, hyd nes y cynharaf o’r canlynol—
(a) y dyddiad y mae’r cyllid yng nghronfa enillion o warediadau’r landlord cymdeithasol cofrestredig hwnnw yn dod i ben yn llwyr; neu
(b) y dyddiad y mae’r landlord cymdeithasol cofrestredig yn hysbysu Gweinidogion Cymru nad yw’n gallu defnyddio neu ddyrannu, na pharhau i ddefnyddio neu ddyrannu, cyllid yng nghronfa enillion o warediadau’r landlord cymdeithasol cofrestredig hwnnw yn unol â phenderfyniad a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 25 o Ddeddf 1996; neu
(c) 15 Awst 2021.
(2) Er gwaethaf paragraff (1), nid yw’n ofynnol i landlord cymdeithasol cofrestredig sydd â chronfa enillion o warediadau ar 15 Awst 2018, o dan adran 24 o Ddeddf 1996, roi cyfrif am yr enillion o unrhyw warediad ar ôl y dyddiad hwnnw o fewn ei gronfa enillion o warediadau.
(3) Os yw landlord cymdeithasol cofrestredig (A), o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff (1), yn trosglwyddo ei gronfa enillion o warediadau i landlord cymdeithasol cofrestredig arall (B), caiff rheolaeth B o’r gronfa honno ei thrin o dan baragraff (1) fel pe bai’n A.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
14 Mehefin 2018