
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Gwarcheidiaeth Arbennig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Y diwrnod penodedig i’r cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig ddod i rym yw 2 Gorffennaf 2018.
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2018