
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaeth Atodol) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Gorffennaf 2018.
2 
Mae Deddf Enillion Troseddau 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) yn adran 303C(9)(d) (swyddog perthnasol at ddibenion Pennod 3A), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(b) yn adran 303E(4)(f) (uwch-swyddog at ddibenion cymeradwyaeth ymlaen llaw i gynnal chwiliadau), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(c) yn adran 303L(5)(d) (personau penodedig - cadwad pellach o eiddo yr ymafaeliwyd ynddo), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(d) yn adran 303O(2)(d) (personau penodedig - fforffedu eiddo), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(e) yn adran 303Z1(6) (dehongli at ddibenion Pennod 3B), yn y diffiniad o “enforcement officer”, ym mharagraff (d), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(f) yn adran 303Z2(4)(e) (uwch-swyddog at ddibenion Pennod 3B), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(g) yn adran 303Z14(3)(d) (personau penodedig at ddibenion ceisiadau fforffedu cyfrif), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(h) yn adran 336D(7)(h) (uwch-swyddog at ddibenion adran 336A (pŵer y llys i estyn y cyfnod moratoriwm)), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(i) yn adran 378(3C)(c) (swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(j) yn adran 378(3D)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;
(k) yn adran 378(3E)(c) (swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”; ac
(l) yn adran 378(3F)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2018