
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Gorffennaf 2018.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru.
2 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 (cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC) o’r Atodlen—
(a) ym mharagraff 3, ar ôl “290(4)(c)” mewnosoder “a’r cyfeiriad yn adran 297A(6)(c)”;
(b) ar ôl paragraff 3 mewnosoder—“
3A. 
Adran 303C(9)(d) (swyddog perthnasol at ddibenion Pennod 3A), adran 303L(5)(d) (personau penodedig - cadwad pellach o eiddo yr ymafaelwyd ynddo) ac adran 303O(2)(d) (personau penodedig - fforffedu eiddo).
3B. 
Adran 303Z1(6) (swyddog gorfodi at ddibenion Pennod 3B) ac adran 303Z14(3)(d) (personau penodedig at ddibenion ceisiadau fforffedu cyfrif).”;
(c) ym mharagraff 4, ar ôl “352(5)(c)” mewnosoder “, (ca) ac (cb)”;
(d) ym mharagraff 5, ar ôl “353(10)(c)” mewnosoder “, (ca) ac (cb)”; ac
(e) ar ôl paragraff 7 mewnosoder—“
7A. 
Adran 378(3C)(c) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8).
7B. 
Adran 378(3E)(c) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8).”
(3) Yn Rhan 2 (cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC ac sydd ar radd 7 neu uwch neu radd gyfatebol) o’r Atodlen—
(a) ar ôl paragraff 11 mewnosoder—“
11A. 
Adran 297A(6)(c) (uwch-swyddog at ddiben rhoi hysbysiad fforffedu).
11B. 
Adran 303E(4)(f) (uwch-swyddog at ddibenion cymeradwyaeth ymlaen llaw i gynnal chwiliadau).
11C. 
Adran 303Z2(4)(e) (uwch-swyddog at ddibenion Pennod 3B).
11D. 
Adran 336D(7)(h) (uwch-swyddog at ddibenion adran 336A (pŵer y llys i estyn y cyfnod moratoriwm)).”; a
(b) ar ôl paragraff 13 mewnosoder—“
13A. 
Adran 378(3D)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau eiddo dan gadwad o dan Ran 8).
13B. 
Adran 378(3F)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau cyllid clo o dan Ran 8).”
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2018