
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Gorffennaf 2018.
2 

(1) Mae Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3 (dehongli), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”), yn lle “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Comisiwn (UE) 2015/1127”, rhodder “fel y’i diwygwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (UE) 2017/997”.
3 
Dirymir Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2016.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynlluno a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11th Mehefin 2018