
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Gorffennaf 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn adran 62A(2)(b) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (rhestrau o wastraff sy’n arddangos nodweddion peryglus), ar ôl “Directive 2008/98/EC” mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
3 
Yn lle rheoliad 2(1)(a) o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr Gwastraff), rhodder—“
(a) “ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997;”.
4 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007 (dehongli a hysbysiadau), yn y diffiniad o “the Waste Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
5 
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (dehongli), yn y diffiniad o “the Waste Framework Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder, “as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
6 
Yn rheoliad 3 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (dehongli: Cyfarwyddebau), yn y diffiniad o “the Waste Framework Directive”, ar y diwedd, cyn yr hanner colon, mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 2017/997”.
7 
Mae’r rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2015;
(b) rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwastraff (Ystyr Adfer) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2018