
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mehefin 2018.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen.
(4) Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 8(3) yn cael effaith o 1 Mehefin 2018 ymlaen.
2 
Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 sy’n sefydlu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3 
Yn Rhan 3 (aelodaeth o’r cynllun), yn nhestun Saesneg rheoliad 30 (aelod â chredyd pensiwn), yn lle “WPRA 1999” rhodder “WRPA 1999”.
4 
Yn Rhan 5 (buddion ymddeol), yn rheoliad 80A (opsiwn i gymudo rhan o swm cyfwerth), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Pan fo hawl gan y person i gael taliad ar unwaith o swm cyfwerth â phensiwn afiechyd haen isaf Cynllun 1992 ac yntau’n arfer yr opsiwn i gymudo o dan y rheoliad hwn, cyfrifir y cyfandaliad yn unol â rheol B7 (cymudo – darpariaeth gyffredinol) o Gynllun 1992.”
5 

(1) Mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 87(1) (pensiwn sy’n daladwy i bartner sy’n goroesi, ar farwolaeth aelod actif) yn lle “gyda mwy na thri” rhodder “gydag o leiaf dri”.
(3) Yn rheoliad 101(3) a (4) (pensiwn profedigaeth: plentyn cymwys), yn lle “pensiwn partner sy’n goroesi”, ym mhob lle y mae’r geiriau’n digwydd, rhodder “pensiwn plentyn cymwys”.
6 

(1) Mae Rhan 8 (cyfraniadau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 120(2) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig), ar ôl “hwnnw” mewnosoder “wneud dewisiad i”.
(3) Yn rheoliad 128(5) (ad-dalu cyfraniad ychwanegol cyflogwr ar gyfer dyfarniad afiechyd, yn dilyn adolygiad) ar ôl “mewn cysylltiad â P” yn y lle cyntaf y mae’r geiriau hynny’n digwydd, mewnosoder “o’r dyddiad pan ddaeth yr hawlogaeth i ben”.
7 
Yn Rhan 9 (cronfa bensiwn y diffoddwyr tân), yn nhestun Saesneg rheoliad 137(2)(b) (diffygion gwirioneddol), ar ôl “must repay it” mewnosoder “to”.
8 

(1) Mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 3A (talu buddion afiechyd i aelodau trosiannol)—
(a) ym mharagraff 22(2)(a), ar ôl “reol 2” mewnosoder “o Ran 3”; a
(b) ym mharagraff 25(2), yn lle “B1A(3)(i)” yn y ddau le y mae’n digwydd rhodder “B1A(3)(a)”.
(3) Yn Rhan 3C (darpariaethau trosiannol mewn perthynas ag CPNDT a Chynllun 1992)—
(a) ym mharagraff 37—
(i) yn lle’r pennawd “Rheolwr cynllun yn penderfynu nad oes gan aelod o CPNDT hawl i ddyfarniad afiechyd” rhodder “Awdurdod yn penderfynu a oes hawlogaeth gan aelod o CPNDT i gael dyfarniad afiechyd”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “Os yw’r paragraff hwn yn gymwys” rhodder “Os yw’r awdurdod yn penderfynu wedi hynny nad oes hawl gan yr aelod o CPNDT i gael dyfarniad afiechyd”; a
(iii) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) Os yw’r awdurdod yn penderfynu wedi hynny bod hawl gan yr aelod o CPNDT i gael dyfarniad afiechyd—
(a) nid yw’r aelod yn ymuno â’r cynllun hwn;
(b) mae’r aelod yn parhau i fod yn aelod o CPNDT; ac
(c) mae’r dyfarniad afiechyd yn daladwy o dan reol 2 o Ran 3 (dyfarndal yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd) o CPNDT.”; a
(b) ym mharagraff 38—
(i) yn lle’r pennawd “Rheolwr cynllun yn penderfynu nad oes gan aelod o Gynllun 1992 hawl i ddyfarniad afiechyd” rhodder “Awdurdod yn penderfynu a oes hawlogaeth gan aelod o Gynllun 1992 i gael dyfarniad afiechyd”;
(ii) yng ngeiriau agoriadol is-baragraff (2), yn lle “Os yw’r paragraff hwn yn gymwys” rhodder “Os yw’r awdurdod yn penderfynu wedi hynny nad oes hawl gan yr aelod o Gynllun 1992 i gael dyfarniad afiechyd,”;
(iii) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “H2A (apelau yn erbyn barn sy’n seiliedig ar gyngor meddygol)” rhodder “H2 (apêl yn erbyn barn ar fater meddygol)”; a
(iv) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) Os yw’r awdurdod yn penderfynu wedi hynny bod hawl gan yr aelod o Gynllun 1992 i gael dyfarniad afiechyd—
(a) nid yw’r aelod yn ymuno â’r cynllun hwn;
(b) mae’r aelod yn parhau i fod yn aelod o Gynllun 1992; ac
(c) mae’r dyfarniad afiechyd yn daladwy o dan reol B3 (dyfarniadau afiechyd) o Gynllun 1992.”
9 
Yn y rhaglith i Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2015 hepgorer “(6) a (7),”.
Alun Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
9 Mai 2018