
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2010” yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
2 
Daw’r darpariaethau o Ddeddf 2010 a ganlyn i rym, at y diben o wneud is-ddeddfwriaeth, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—
(a) adran 32 (draenio cynaliadwy);
(b) Atodlen 3 (draenio cynaliadwy).
3 
Daw’r darpariaethau o Ddeddf 2010 a ganlyn i rym at yr holl ddibenion sy’n weddill, ar 7 Ionawr 2019—
(a) adran 32;
(b) Atodlen 3.
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru.
1 Mai 2018