
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) (Diwygio) 2018 a deuant i rym ar 25 Mai 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn yr ail golofn a’r drydedd golofn o Atodlen 2 (Partneriaid Arweiniol) i Reoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015 yn lle “Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy” rhodder “Cyngor Sir Ddinbych”.
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
17 Ebrill 2018