
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Codau Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhannau 4 a 5 a Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Cod Diwygiedig Rhannau 4 a 5” (“the Revised Parts 4 and 5 Code”) yw’r Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y gosodwyd drafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 2 Chwefror 2018 i’w ddyroddi gan Weinidogion Cymru ar 28 Mawrth 2018;ystyr “Cod Diwygiedig Rhan 6” (“the Revised Part 6 Code”) yw’r Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y gosodwyd drafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 2 Chwefror 2018 i’w ddyroddi gan Weinidogion Cymru ar 28 Mawrth 2018.
2 

(1) Y diwrnod penodedig i God Diwygiedig Rhan 6 ddod i rym yw 2 Ebrill 2018.
(2) Y diwrnod penodedig i God Diwygiedig Rhannau 4 a 5 ddod i rym yw 9 Ebrill 2018.
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2018