
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
2 
Ar ôl rheoliad 9 o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018, mewnosoder—“
9A. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r hen les y cyfeirir ati ym mharagraff 8(1) o’r Atodlen wedi ei rhoi cyn y dyddiad cychwyn.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) mae paragraff 8(1) o’r Atodlen yn gymwys i’r hen les;
(b) mae paragraff 8(3)(b) a (4) o’r Atodlen yn cael effaith fel pe bai “sy’n dod i ben ar y dyddiad cyn y dyddiad y rhoddir y les newydd” yn cael ei roi yn lle “sy’n dod i ben ar ddiwedd y blynyddoedd dal drosodd cyfan”; ac
(c) mae’r “rhent trethadwy” sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r denantiaeth dal drosodd at ddibenion paragraff 8(3) a (5)(b) o’r Atodlen i gynnwys y swm a ystyriwyd wrth bennu’r dreth a oedd i’w chodi o dan ddarpariaethau Atodlen 5 i DC 2003 am y cyfnod hwnnw.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “yr Atodlen” yw Atodlen 6 i’r Ddeddf TTT.”
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2018