
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru a Lloegr) 2018.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2017” yw Deddf yr Economi Ddigidol 2017.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2017 i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn—
(a) adran 35 (datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), at ddibenion gwneud rheoliadau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath, yn unig;
(b) adran 38 (datgelu gwybodaeth i ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth etc.), at ddibenion gwneud rheoliadau mewn perthynas â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu mewn perthynas â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath, yn unig; ac
(c) adran 44 (rheoliadau), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r dibenion a bennir ym mharagraffau (a) a (b).
3 

(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2017 i rym ar 1 Ebrill 2018 i’r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth i ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth ar gyfer ardal sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu’n ymwneud â datgelu gwybodaeth gan ymgymerwr o’r fath—
(a) adran 35 (datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), at bob diben sy’n weddill;
(b) adran 38 (datgelu gwybodaeth i ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth etc.), at bob diben sy’n weddill;
(c) adran 39 (datgelu gwybodaeth gan ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth etc.);
(d) adran 40 (darpariaethau pellach ynghylch datgeliadau o dan unrhyw un neu ragor o adrannau 35 i 39);
(e) adran 41 (cyfrinachedd gwybodaeth bersonol);
(f) adran 42 (gwybodaeth a ddatgelir gan Gyllid a Thollau);
(g) adran 43 (cod ymarfer);
(h) adran 44 (rheoliadau), at yr holl ddibenion sy’n weddill;
(i) adran 45 (dehongli’r bennod hon etc.);
(j) Atodlen 4 (cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: personau penodedig at ddibenion adran 35);
(k) Atodlen 6 (cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus: personau penodedig at ddibenion adrannau 38 a 39).
(2) Daw Penodau 5 a 6 o Ran 5 o Ddeddf 2017 i rym ar 1 Ebrill 2018, i’r graddau y maent yn ymwneud â datgelu gwybodaeth gan Awdurdod Cyllid Cymru.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2018