
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018—
(a) adran 25 (talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru);
(b) adran 26 (Siarter safonau a gwerthoedd);
(c) Rhan 4 (pwerau ymchwilio ACC), ac eithrio adrannau 82 (trosolwg o Ran 4) a 101(3) a (4) (pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig);
(d) Pennod 5 o Ran 5 (cosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau);
(e) adran 154 (talu cosbau);
(f) adran 155 (gwahardd cosbi ddwywaith);
(g) adrannau 160 i 162 (darpariaeth mewn perthynas â llog);
(h) Rhan 7 (talu a gorfodi), ac eithrio adran 167 (ffioedd talu);
(i) Rhan 8 (adolygiadau ac apelau), ac eithrio adran 171 (trosolwg o Ran 8); a
(j) Rhan 9 (ymchwilio i droseddau).
3 
Daw unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018 i rym ar y dyddiad hwnnw.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2018