
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2017” yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Ebrill 2018.
(4) Nid yw’r Rheoliadau hyn ond yn gymwys mewn perthynas â’r ddarpariaeth o gymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018, pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan Reoliadau 2017 ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2018.
2 
Mae Rheoliadau 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3 
Yn rheoliad 4 (cyrsiau dynodedig), yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) At ddiben paragraff (1)(a) rhaid i’r cwrs fod yn un o’r canlynol—
(a) cwrs llawnamser sy’n para un flwyddyn academaidd neu ddwy flynedd academaidd; neu
(b) cwrs rhan-amser y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau mewn cyfnod o hyd at bedair blynedd academaidd.”
4 
Yn rheoliad 12 (swm benthyciad at radd feistr ôl-raddedig), yn y ddau le y mae’n digwydd, yn lle “£10,280” rhodder “£13,000”.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2018