
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Cofnodion Treth Gwarediadau Tirlenwi) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “anfoneb dirlenwi” (“landfill invoice”) yr ystyr a roddir yn adran 41(8) o DTGT;
 mae i “gwarediad trethadwy” (“taxable disposal”) yr ystyr a roddir yn adran 3 o DTGT;
 mae i “gweithrediadau trethadwy” (“taxable operations”) yr ystyr a roddir yn adran 34(2) o DTGT;
 ystyr “nodyn trosglwyddo” (“transfer note”) yw disgrifiad ysgrifenedig o ddeunydd os yw’n ofynnol gan adran 34(1)(c)(ii) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 neu, pan na fo disgrifiad o’r fath yn ofynnol, dystiolaeth arall o’r deunydd sy’n cael ei gyflwyno;
 mae i “safle tirlenwi awdurdodedig” (“authorised landfill site”) yr ystyr a roddir yn adran 5(1) o DTGT.
3 
At ddibenion adran 38(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 mae’r cofnodion y mae’n rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy eu cadw a’u storio’n ddiogel yn cynnwys y canlynol—
(a) cofnodion busnes a chyfrifo’r person;
(b) nodiadau trosglwyddo ac unrhyw gofnodion gwreiddiol neu gopïau o gofnodion eraill mewn perthynas â deunydd sy’n cael ei gludo i’r safle tirlenwi awdurdodedig neu ei symud oddi yno;
(c) pob anfoneb (gan gynnwys anfonebau tirlenwi) a dogfen debyg a ddyroddir i’r person a chopïau o anfonebau a dogfennau tebyg o’r fath a ddyroddir gan y person;
(d) pob nodyn credyd a debyd neu ddogfen arall a gafwyd gan y person sy’n dangos tystiolaeth o gynnydd neu ostyngiad yng nghyfanswm unrhyw gydnabyddiaeth ar gyfer gwarediad trethadwy, a chopïau o nodiadau neu ddogfennau eraill o’r fath a ddyroddir gan y person.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2018