
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Gweinyddu) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw Atodlen 11 i’r Ddeddf TTT;
 ystyr “CUT” (“UTRN”) yw’r cyfeirnod unigryw trafodiad a ddyrennir i drafodiad tir gan ACC at ddibenion treth trafodiadau tir;
 “dyroddwr bond” (“bond-issuer”) yw “B” fel y darperir ar ei gyfer gan baragraff 6 o’r Atodlen;
 ystyr “y Ddeddf TTT” (“the LTT Act”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017; a
 “perchennog gwreiddiol” (“original owner”) yw “A” fel y darperir ar ei gyfer gan baragraff 6 o’r Atodlen.
RHAN 2
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i dystysgrif ACC gael ei dyroddi pan fo ACC wedi ei fodloni—
(a) bod ffurflen dreth wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â thrafodiad tir hysbysadwy; a
(b) bod y ffurflen dreth (ynghyd ag unrhyw ffurflenni treth eraill sy’n ofynnol)—
(i) wedi ei chwblhau; a
(ii) yn cynnwys y datganiad sy’n ofynnol gan adran 53 o’r Ddeddf TTT.
(2) Pan fo ffurflen dreth yn ymwneud â thrafodiad trethadwy, rhaid i ACC fod wedi ei fodloni hefyd—
(a) bod y ffurflen dreth yn cynnwys hunanasesiad fel sy’n ofynnol gan adran 44(2)(b) o’r Ddeddf TTT; a
(b) ar sail yr wybodaeth a gynhwysir yn y ffurflen dreth, yr ymddengys bod yr hunanasesiad yn gywir.
4 
Rhaid i dystysgrif ACC fod yn ysgrifenedig a rhaid iddi gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) cyfeiriad y tir y mae’r trafodiad yn ymwneud ag ef;
(b) unrhyw rif teitl ar gyfer y tir yn y gofrestr teitlau a gedwir gan y Prif Gofrestrydd Tir sydd wedi ei ddarparu ar y ffurflen dreth;
(c) unrhyw gyfeirnod unigryw eiddo y Rhestr Gyfeiriadau Genedlaethol sydd wedi ei ddarparu ar y ffurflen dreth;
(d) disgrifiad o’r trafodiad;
(e) y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith; ac
(f) enw’r prynwr a’r gwerthwr.
5 
Os yw ACC wedi ei fodloni bod tystysgrif ACC wedi ei cholli neu ei dinistrio, caniateir dyroddi tystysgrif ACC ddyblyg.
6 

(1) Pan ddychwelir ffurflen dreth sy’n ymwneud â mwy nag un trafodiad, caiff y prynwr wneud cais i ACC ddyroddi tystysgrifau ACC ar wahân mewn cysylltiad â phob un o’r trafodiadau y mae’r ffurflen dreth yn ymwneud â hwy.
(2) Pan fo’r prynwr yn gwneud cais o dan baragraff (1), rhaid i ACC ddarparu tystysgrifau ar wahân mewn cysylltiad â phob un o’r trafodiadau hynny.
RHAN 3
7 
Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 9(1) o’r Atodlen (amod 4 ar gyfer gweithredu rhyddhadau) yw—
(a) unrhyw ddogfen a ddarparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod pridiant tir cyfreithiol wedi ei gofnodi yn y gofrestr teitlau o blaid ACC; a
(b) y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond.
8 
Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 16 o’r Atodlen (gollwng pridiant tir pan fodlonir amodau ar gyfer rhyddhad) yw—
(a) datganiad gan y dyroddwr bond, neu berson a awdurdodir i weithredu ar ran y dyroddwr bond, fod pob un o amodau 1 i 3 a 5 i 7 wedi eu bodloni;
(b) y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond;
(c) y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r dyroddwr bond i’r perchennog gwreiddiol; a
(d) unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod y tir wedi ei gofrestru yn enw’r perchennog gwreiddiol.
9 
Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 18(4)(a) o’r Atodlen (tir amnewid sydd yng Nghymru) yw—
(a) y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond;
(b) y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r dyroddwr bond i’r perchennog gwreiddiol; ac
(c) unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod y tir gwreiddiol wedi ei gofrestru yn enw’r perchennog gwreiddiol.
10 
Y dystiolaeth ragnodedig at ddiben paragraff 18(5) o’r Atodlen (tir amnewid nad yw yng Nghymru) yw—
(a) y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r perchennog gwreiddiol i’r dyroddwr bond;
(b) y CUT ar gyfer y ffurflen dreth yr hawliwyd rhyddhad rhag treth arni mewn perthynas â’r trafodiad pan drosglwyddwyd tir o’r dyroddwr bond i’r perchennog gwreiddiol;
(c) unrhyw ddogfen sy’n profi nad yw’r tir amnewid yng Nghymru a bod amodau 1 i 3 yn Rhan 3 o’r Atodlen wedi eu bodloni mewn perthynas â’r tir hwnnw; a
(d) unrhyw ddogfen fel y’i darparwyd gan y Prif Gofrestrydd Tir sy’n cadarnhau bod y tir gwreiddiol wedi ei gofrestru yn enw’r perchennog gwreiddiol.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
4 Ionawr 2018