
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2018.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Enillion Troseddau 2002.
3 
Mae cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig mewn darpariaeth o’r Ddeddf a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen yn gyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC.
4 
Mae cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig mewn darpariaeth o’r Ddeddf a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen yn gyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC ac sydd ar radd 7 neu uwch neu radd gyfatebol.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2018
ATODLEN
Erthyglau 3 a 4
RHAN 1
1 
Adran 42(2)(c) (cais am orchymyn atal o dan Ran 2 – yn ddarostyngedig i awdurdodiad o dan adran 68(3)(c)).
2 
Adrannau 47A(1)(c) (adrannau 47B i 47S: ystyr “appropriate officer”) a 47M(3)(c) (cadwad pellach gan lys ynadon).
3 
Pennod 3 o Ran 5 (ar wahân i’r ail gyfeiriad yn adran 290(4)(c)).
4 
Adran 352(5)(c) (y person priodol at ddibenion gwarantau chwilio ac ymafael o dan Bennod 2 o Ran 8).
5 
Adran 353(10)(c) (y person priodol ar gyfer sicrhau mynediad ar unwaith i fangre pan na fo gorchymyn cyflwyno ar gael).
6 
Adran 378(1)(b) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau atafaelu o dan Ran 8).
7 
Adran 378(3A)(ab) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau arian parod dan gadwad o dan Ran 8).
8 
Adran 378(4)(a) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau gwyngalchu arian o dan Ran 8).
RHAN 2
9 
Adran 47G(3)(c) (cymeradwyaeth briodol).
10 
Adran 68(3)(c) (awdurdodiad ar gyfer ceisiadau ac apelau o dan Ran 2).
11 
Adran 290(4)(c) (cymeradwyaeth ymlaen llaw gan uwch-swyddog i gynnal chwiliad arian parod o dan Bennod 3 o Ran 5).
12 
Adran 378(2)(d) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau atafaelu).
13 
Adran 378(3AA)(b) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau arian parod dan gadwad).
14 
Adran 378(6)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau gwyngalchu arian).