
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau 2016, mewnosoder y canlynol yn y lle priodol—“
 mae i “gwasanaeth cymorth cartref” (“domiciliary support service”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2(1)(h) o’r Ddeddf a pharagraff 8 o Atodlen 1 iddi, yn ddarostyngedig i reoliad 3(1) o Reoliadau 2017;”;“
 ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017;”.
4 
Mae rheoliad 3 (pennu gweithwyr gofal cymdeithasol) o Reoliadau 2016 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ar ddiwedd paragraff (2)(c), yn lle “.” rhodder “;”; a
(b) ar ôl paragraff (2)(c) mewnosoder—“
(d) sydd—
(i) wedi eu cyflogi (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr), neu
(ii) wedi eu cymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau,
gan ddarparwr gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae i’r termau “cyflogai”, “cyflogaeth” a “gweithiwr” yr un ystyron ag “employee”, “employment” a “worker” yn adran 230(1), (5) a (3) yn y drefn honno o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996.”
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Chwefror 2018