
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Traffig Ffyrdd 1988 (Rasio Moduron) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 02 Chwefror 2018.
2 
Y cyrff llywodraethu chwaraeon moduron a bennir at ddiben adran 12B(6) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, o ran Cymru, yw—
(a) The Royal Automobile Club Motor Sports Association Limited; a
(b) The Auto-Cycle Union Limited.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
9 Ionawr 2018