
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
2 
Swm y rhent perthnasol a bennir o dan baragraff 36(1)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yw £9,000.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
31 Ionawr 2018