
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2018.
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.
3 
Mae’r cyfraddau a ganlyn wedi eu rhagnodi yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017—
(a) y gyfradd safonol yw £88.95;
(b) y gyfradd is yw £2.80; ac
(c) y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £133.45.
Mark Drakefor
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
31 Ionawr 2018