
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
2 
Mae Atodlen 5 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff 7(a), ar ôl “y prynwr” mewnosoder “neu briod neu bartner sifil y prynwr”;
(b) ym mharagraff 16(a), ar ôl “y prynwr” mewnosoder neu briod neu bartner sifil y prynwr”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymr
31 Ionawr 2018