
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Ebrill 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 7 (uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl), ym mharagraff (1), yn lle “£70” rhodder “£80”;
(b) yn rheoliad 11 (terfyn cyfalaf perthnasol), ym mharagraff (2)(a), yn lle “£30,000” rhodder “£40,000”;
(c) yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£27.50” rhodder “£28.50”;
(d) yn rheoliad 22 (uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl), ym mharagraff (1), yn lle “£70” rhodder “£80”; ac
(e) yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£27.50” rhodder “£28.50”.
Huw Irranca-Davies
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2018