
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu sy’n ymwneud â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018, neu ar ôl hynny, ac a ddyroddir gan awdurdodau bilio Cymreig, neu ar eu rhan.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “hysbysiad galw am dalu” yw hysbysiad galw am dalu o fewn yr ystyr a roddir i “demand notice” yn Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 a gyflwynir gan awdurdod bilio neu unrhyw berson a awdurdodir gan awdurdod bilio i arfer unrhyw swyddogaethau sy’n ymwneud â chasglu ardrethi annomestig (gan gynnwys hysbysiad o’r fath a gyflwynir yn unol â Rhan II o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (cydberchnogion a chydfeddianwyr)).
2 
Ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 (nodiadau esboniadol), yn y paragraff o’r enw rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, yn lle “Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015” rhodder “Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
31 Ionawr 2018