
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2018.
RHAN 2
2 

(1) Mae Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y diffiniad o “the Directive”, ar ôl “treatment,” mewnosoder “as last amended by Regulation (EC) No 1137/2008 of the European Parliament and of the Council,”;
(b) yn y geiriau ar ôl y diffiniad o “Wales”, ar ôl “used” mewnosoder “in these Regulations and”.
(3) Yn Atodlen 1, yn Rhan 1, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “the concentration” hyd at “Member States” rhodder “50 mg/l of nitrates in 95% of the samples”.
3 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Dŵr Yfed (Ymgymeriadau) (Cymru a Lloegr) 2000, ar ôl “human consumption)” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive (EU) 2015/1787,”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddeb y Cyngor” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2009/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y defnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig”.
(3) Yn lle rheoliad 13(4)(c) rhodder—“
(c) unrhyw berson, neu unrhyw aelod o bwyllgor diogelwch addasu genetig, y mae’n rhaid cael cyngor ganddo o dan reoliad 8 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014,”.
5 
Yn rheoliad 18(6) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, yn lle’r geiriau o “applies to a decision notice” hyd at y diwedd rhodder “does not apply”.
6 

(1) Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12(3), yn lle “Rheoliad y Cyngor 259/93/EEC” rhodder “Rheoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 14 Mehefin 2006 ar drawslwytho gwastraff”.
(3) Yn Atodlen 7, ym mharagraff 1(b), yn lle’r geiriau o “yr Atodiad” hyd at “1994” rhodder “Atodiad 1A i Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar drawslwytho gwastraff”.
7 
Yn rheoliad 3(b)(ii) o Reoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006, ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU”.
8 

(1) Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 20, cyn paragraff (1), mewnosoder—“
(A1) Pan fo gweithredwr cyfrifol wedi cael hysbysiad oddi wrth yr awdurdod gorfodi o dan reoliad 18, rhaid iddo, yn ddi-oed, canfod mesurau adfer posibl yn unol ag Atodlen 4, a chyflwyno’r mesurau hynny yn ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi i’w cymeradwyo ganddo.”
(3) Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 5 rhodder—“
5. 

(1) Nid yw difrod i rywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol ag—
(a) Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994;
(b) Rheoliadau Gweithgarwch Petrolewm Alltraeth (Cadwraeth Cynefinoedd) 2001;
(c) Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010;
(d) Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017;
(e) Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017.
(2) Nid yw difrod i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys, yn achos safle nad yw’n safle Ewropeaidd, difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
(3) Yn is-baragraff (2), mae i “safle Ewropeaidd” yr un ystyr ag a roddir i “European site” yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.”
9 

(1) Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(3), yn y diffiniad o “tystysgrif CITES” (“CITES certificate”), ar ôl “fasnach ynddynt” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/160,”.
(3) Yn rheoliad 6(2), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/870”.
10 
Yn erthygl 3(4) o Orchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011—
(a) yn is-baragraff (b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17(EU)”;
(b) yn is-baragraff (c), ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU”;
(c) ar ôl is-baragraff (c) hepgorer “a”;
(d) yn is-baragraff (ch), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU”.
11 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cymru a Lloegr) 2012, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “clinical waste”, ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “Council Directive” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EC) No 1272/2008 of the European Parliament and of the Council on classification, labelling and packaging of substances and mixtures, as amended from time to time,”.
12 
Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, ar ôl “water policy” mewnosoder “, as last amended by Commission Directive 2014/101/EU”.
13 

(1) Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6, yn y diffiniad o “rhanddirymiad” (“derogation”), hepgorer “a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU”.
(3) Yn rheoliad 11(2)(b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/1787”.
(4) Yn rheoliad 22(2)(a)(ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu Reoliad (EU) 1305/2013”.
14 
Yn Atodlen 10 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, ym mharagraff 5—
(a) yn is-baragraff (4), yn lle’r geiriau o “Regulation” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EU) 2017/852 of the European Parliament and of the Council on mercury”;
(b) hepgorer is-baragraff (5).
15 
Yn rheoliad 9 o Reoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017, yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) In paragraph (1), an abstraction of more limited extent does not include—
(a) a Qn95 hands-off flow constraint on a licence where the licensed abstraction is from a body of inland waters or a body of groundwater where the recent actual flow or quantitative status of the source of supply does not support good ecological potential, good ecological status or good quantitative status, or
(b) 75% of Qn99 hands-off flow constraint on a licence where the licenced abstraction is from a body of inland waters or a body of groundwater where the recent actual flow or quantitative status of the source of supply supports good ecological potential, good ecological status or good quantitative status.”
16 

(1) Mae Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn lle’r diffiniad o “the 2010 Regulations” rhodder—“
 “the 2017 Regulations” means the Conservation of Habitats and Species Regulations 2017;”;
(b) yn y diffiniad o “conservation site”—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “regulation 10(5) of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 12(5) of the 2017 Regulations”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “regulation 11 of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 13 of the 2017 Regulations”;
(iii) ym mharagraff (c), yn lle “regulations 12A and 12B, respectively, of the 2010 Regulations” rhodder “regulations 15 and 16, respectively, of the 2017 Regulations”;
(c) yn y diffiniad o “protected species”, ym mharagraff (a), yn lle “regulation 40(1) of, and Schedule 2 to, the 2010 Regulations” rhodder “regulation 42(1) of, and Schedule 2 to, the 2017 Regulations”.
(3) Yn rheoliad 14(1)(b), yn lle “regulation 99(2) of the 2010 Regulations” rhodder “regulation 102(2) of the 2017 Regulations”.
RHAN 3
17 

(1) Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”), yn lle “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/62/EC” rhodder “, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
(3) Yn rheoliad 5(2)(b), yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC” rhodder “Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar y amgylchedd, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
18 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1—
(a) yn Rhan 1, colofn 1, adran ‘P’, ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 440/2008” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
(b) yn Rhan 4—
(i) ym mharagraff 11(1), ar ôl “chyflenwyr erosol”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
(ii) ym mharagraff 13(a), ar ôl “gwrteithiau” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
(iii) ym mharagraffau 14 ac 16(b), ar ôl “Reoliad (EC) Rhif 2003/2003”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6(a), yn lle “Erthygl 3(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1102/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wahardd allforio mercwri metelaidd a chyfansoddion a chymysgeddau penodol mercwri a storio mercwri metelaidd yn ddiogel” rhodder “Erthygl 13(1) o Reoliad (EU) 2017/852 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fercwri, ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1102/2008, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
19 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 9 a 10, yn lle “Atodiad IIA i
Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC” rhodder “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau
Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016”.
20 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 9 a 10, yn lle “Atodiad IIA i
Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC” rhodder “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997,”.
(3) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016”.
RHAN 4
21 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(d)(i), yn lle “the Vegetable Seeds Regulations 1993” rhodder “the Seed Marketing (Wales) Regulations 2012”.
(3) Yn rheoliad 8(4), yn lle “the Vegetable Seeds Regulations 1993” rhodder “the Seed Marketing (Wales) Regulations 2012”.
22 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) hepgorer y diffiniad o “Directive 77/93/EEC”;
(b) yn y diffiniad o “Directive 98/56/EC”, ar y diwedd mewnosoder “, as last amended by Regulation (EU) No 652/2014 of the European Parliament and of the Council”;
(c) ar ôl y diffiniad o “Directive 98/56/EC” mewnosoder—“
 “Directive 2000/29/EC” means Council Directive 2000/29/EC on protective measures against the introduction into the Community of organisms harmful to plants or plant products and against their spread within the Community;”.
(3) Yn rheoliad 9(2), yn lle “Council Directive 77/93/EEC” rhodder “Directive 2000/29/EC”.
23 
Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009, yn lle’r diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) rhodder—“
 Ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”.
24 
Yn rheoliad 3 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016—
(a) yn y diffiniad o “y Penderfyniad” (“the Decision”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/320”;
(b) yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/317”.
RHAN 5
25 

(1) Mae Gorchymyn Mewnforio Embryonau, Ofa a Semen 1980 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2—
(a) ym mharagraff (a), yn lle “the Animal Health Act 1981” rhodder “the Act”;
(b) ym mharagraff (b), yn lle “section 84(3)(a) and (b)” rhodder “section 88(1) and (3)”.
(3) Yn erthygl 3, yn y diffiniad o “the Act”, yn lle “the Diseases of Animals Act 1950” rhodder “the Animal Health Act 1981”.
(4) Hepgorer erthygl 9.
26 

(1) Mae Gorchymyn Mewnforio Cynhyrchion Anifeiliaid a Chynhyrchion Dofednod 1980 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2—
(a) yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “the Animal Health Act 1981 (“the 1981 Act”)” rhodder “the Act”;
(b) ym mharagraffau (a) a (b), yn lle “the 1981 Act” rhodder “the Act”.
(3) Yn erthygl 3, yn y diffiniad o “the Act”, yn lle “the Diseases of Animals Act 1950” rhodder “the Animal Health Act 1981”.
(4) Hepgorer erthygl 10.
27 

(1) Mae Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3(1)—
(a) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC” (“Council Directive 2005/94/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau’r Gymuned i reoli ffliw adar;”;
(b) yn y diffiniad o “diheintio” (“disinfect”), yn lle “Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978” rhodder “Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 2007”.
(3) Yn erthygl 6(4), yn lle “Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC” rhodder “Erthygl 50 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC”.
(4) Yn Atodlen 1—
(a) yn Rhan 1, ym mharagraff 6, yn lle “erthygl 4.2(e) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC, ac Atodiad I iddi” rhodder “Erthygl 7(2)(f) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ac Atodiad 3 iddi”;
(b) yn Rhan 2, ym mharagraff 11, yn lle “Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC” rhodder “Atodiad 6 i Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC”.
28 

(1) Mae Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 8(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.
(3) Yn erthygl 43(1)(b)(ii), yn lle’r geiriau o “regulation 9” hyd at y diwedd rhodder “the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011”.
29 

(1) Mae Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, yn y diffiniad o “border inspection post”, yn lle’r geiriau o “Schedule 2” hyd at y diwedd rhodder “regulation 11 of the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011”.
(3) Yn erthygl 3—
(a) ym mharagraff (4), yn lle “the Specified Animal Pathogens Order 1998” rhodder “the Specified Animal Pathogens (Wales) Order 2008”;
(b) ym mharagraff (5), yn lle’r geiriau o “Regulation 19” hyd at y diwedd rhodder “Article 6 of Commission Implementing Regulation (EU) No 139/2013 laying down animal health conditions for imports of certain birds into the Union and the quarantine conditions thereof”.
(4) Yn erthygl 4(7), yn lle “Department for Agriculture and Rural Development of Northern Ireland” rhodder “Department of Agriculture, Environment and Rural Affairs, Northern Ireland”.
(5) Yn erthygl 66(5)(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.
(6) Yn erthygl 71(3)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “section 8(2) of the Medicines Act 1968” rhodder “regulation 17 of the Human Medicines Regulations 2012”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “Regulation 5 of the Veterinary Medicines Regulations 2005” rhodder “regulation 5 of the Veterinary Medicines Regulations 2013”;
(c) yn is-baragraff (d), yn lle “the Specified Animal Pathogens Order 1998” rhodder “the Specified Animals Pathogens (Wales) Order 2008”.
30 
Yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006, yn lle “reoliad 8(3) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005” rhodder “reoliad 3(2)(b) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013”.
31 

(1) Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 12—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) ar ôl is-baragraff (a) hepgorer “or”;
(ii) hepgorer is-baragraff (b);
(b) hepgorer paragraff (2).
(3) Yn erthygl 17(1)(a), yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.
32 
Yn erthygl 18(1)(a) o Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006, yn lle “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) Order 1978” rhodder “the Diseases of Animals (Approved Disinfectants) (Wales) Order 2007”.
33 
Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddebau 91/630/EEC” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2008/120/EC sy’n gosod safonau gofynnol ar gyfer gwarchod moch”;
(b) ar ôl is-baragraff (b), hepgorer “ac”;
(c) yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddebau 91/629/EEC” hyd at y diwedd rhodder “Cyfarwyddeb 2008/119/EC sy’n gosod safonau gofynnol ar gyfer gwarchod lloi”.
34 
Yn rheoliad 17 o Reoliadau’r Tafod Glas (Cymru) 2008, yn lle “Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2011” rhodder “Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013”.
35 

(1) Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012” (“Commission Regulation (EU) No 200/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012 dyddiedig 8 Mawrth 2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o frwyliaid, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor .”
(3) Yn erthygl 3, yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012;”.
(4) Yn erthygl 5(1)—
(a) yn lle “Reoliad (EC) Rhif 646/2007” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012”;
(b) yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”;
(c) yn lle “express post” rhodder “express mail”.
(5) Yn erthygl 8, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 646/2007” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012”.
36 

(1) Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(2)—
(a) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) Rheoliad (EU) Rhif 1190/2012 yn gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1190/2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o dyrcwn, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, ”;
(b) hepgorer is-baragraff (b).
(3) Yn erthygl 4(1)—
(a) yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012”;
(b) yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”.
(4) Yn erthygl 7, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 584/2008” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1190/2012, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
37 
Yn Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011, yn Rhan 2, ym mharagraff 9(1), yn lle’r geiriau o “Rheoliad y Comisiwn” hyd at y diwedd rhodder “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 139/2013 sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid ar gyfer mewnforio adar penodol i mewn i’r Undeb, a’r amodau cwarantin ar eu cyfer”.
38 
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005;
(b) Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006.
RHAN 6
39 
Yn erthygl 2 o Orchymyn Trwyddedu Pysgod Môr 1992, yn y diffiniad o “length”, yn lle’r geiriau o “Council Regulation” hyd at y diwedd rhodder “Regulation (EU) 2017/1130 of the European Parliament and of the Council defining characteristics for fishing vessels”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2018