
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Rhagfyr 2018 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2019.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
3 
Yn lle erthygl 5 rhodder—“
5. 
At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw—
(a) £12,000, neu
(b) £100,000 pan fodlonir yr amodau gofal plant yn erthygl 8.”
4 
Yn erthygl 8(d), yn lle “£20,500” rhodder “£100,000”.
5 
Yn erthygl 11—
(a) ym mharagraff (2), yn lle’r tabl rhodder—“

(1)Erthygl (2)Gwerth Ardrethol(£) (3)Swm E
7 (gwerth ardrethol) 0 i 6,000 5,000,000
7 (gwerth ardrethol) 6,001 i 12,000 Cyfrifir yn unol â pharagraff (3) o’r erthygl hon
8 (gofal plant) 0 i 100,000 5,000,000
9 (swyddfa bost) 0 i 9,000 5,000,000
9 (swyddfa bost) 9,001 i 12,000 2”
(b) hepgorer paragraff (4).
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
15 Tachwedd 2018