
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Cig Eidion a
Chig Llo (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Rhagfyr 2018.
2 
Mae Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliadau a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 653/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor”;
(b) yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “Rhan I” hyd at “1234/2007” rhodder “Rhan 1 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol”; ac
(c) yn is-baragraff (d), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 565/2013”.
4 
Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a), hepgorer paragraffau (vii) ac (viii); a
(ii) yn is-baragraff (c), yn y geiriau cyn paragraff (i), yn lle’r geiriau o “Reoliad” hyd at “1234/2007” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “pwynt IV(2)” hyd at “1234/2007” rhodder “pwynt 4(2) o Ran 1 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
15 Tachwedd 2018