
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) (Rhif 2) 2018 a deuant i rym ar 22 Hydref 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw’r awdurdod cofrestru tiroedd comin;
 ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr y mae’n ofynnol i’r awdurdod ei chadw o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â mapiau a datganiadau a adneuir o dan adran 15A o’r Ddeddf honno;
 ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006;
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;
 mae i “hysbysiad adneuo” (“notice of deposit”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(3)(b);
 ystyr “perchennog perthnasol” (“relevant owner”) yw’r perchennog sy’n adneuo datganiad;
 ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw’r tir y mae’r datganiad o dan sylw yn ymwneud ag ef.
3 

(1) Rhaid i ddatganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006—
(a) bod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi, gyda’r mewnosodiadau neu’r hepgoriadau hynny sy’n angenrheidiol mewn achos penodol; a
(b) cael ei lofnodi—
(i) gan bob un o berchnogion y tir perthnasol sy’n unigolyn, neu gan gynrychiolydd iddo a awdurdodwyd yn briodol; a
(ii) gan ysgrifennydd neu ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol pob un o berchnogion y tir perthnasol sy’n gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig.
(2) Rhaid i’r map y mae’n rhaid iddo fynd gyda’r datganiad yn unol ag adran 15A(3) o Ddeddf 2006 fod yn Fap Ordnans, ar raddfa o ddim llai nag 1:10,560, sy’n dangos ffin y tir perthnasol ag ymyl lliwiedig.
4 

(1) Caiff yr awdurdod bennu ffi resymol am adneuo datganiad.
(2) Rhaid i’r perchennog perthnasol dalu unrhyw ffi a bennir yn unol â pharagraff (1) i’r awdurdod.
5 
Mae datganiad i’w ystyried fel pe bai wedi ei adneuo o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 ar y diwrnod pan fydd y canlynol wedi dod i law’r awdurdod—
(a) datganiad sy’n cydymffurfio â rheoliad 3(1);
(b) map sy’n cydymffurfio â rheoliad 3(2); ac
(c) unrhyw ffi sy’n daladwy yn unol â rheoliad 4.
6 

(1) Pan fo’r awdurdod yn ystyried na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 neu 4(2), rhaid iddo roi hysbysiad i’r perchennog perthnasol i’r perwyl hwnnw.
(2) Rhaid i hysbysiad o’r fath—
(a) nodi’r gofyniad o dan sylw; a
(b) nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod yn ystyried na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad.
(3) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael datganiad yn unol â rheoliad 3(1), map yn unol â rheoliad 3(2) ac unrhyw ffi sy’n ofynnol gan reoliad 4, rhaid i’r awdurdod—
(a) anfon cydnabyddiaeth eu bod wedi dod i law at y perchennog perthnasol; a
(b) rhoi hysbysiad bod datganiad wedi ei adneuo (“hysbysiad adneuo”) yn unol â pharagraff (4).
(4) Rhaid i’r awdurdod—
(a) cyhoeddi hysbysiad adneuo ar ei wefan;
(b) cyflwyno hysbysiad adneuo i unrhyw berson sydd wedi gofyn yn flaenorol am gael ei hysbysu am bob datganiad sydd wedi ei adneuo gyda’r awdurdod ac sydd wedi rhoi cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post i’r awdurdod at y diben hwnnw;
(c) arddangos hysbysiad adneuo am 60 o ddiwrnodau o leiaf—
(i) wrth o leiaf un fynedfa amlwg i’r tir perthnasol, neu yn ei hymyl; neu
(ii) mewn unrhyw achos lle na cheir lleoedd o’r fath, mewn o leiaf un lle amlwg ar ffin neu yn ymyl ffin tir o’r fath.
(5) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (4) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi, gyda’r mewnosodiadau neu’r hepgoriadau hynny sy’n angenrheidiol mewn lle penodol.
(6) Pan fo hysbysiad sy’n cael ei arddangos o dan baragraff (4)(c), heb unrhyw fai na bwriad ar ran yr awdurdod, yn cael ei dynnu, ei guddio neu ei ddifwyno cyn i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, mae’r awdurdod i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw.
7 

(1) Rhaid i’r gofrestr gynnwys—
(a) manylion cyswllt y person yn yr awdurdod y caniateir gwneud ymholiadau iddo ynghylch y gofrestr;
(b) mynegai i’r gofrestr; ac
(c) unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol.
(2) Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â phob map a datganiad a adneuir gyda’r awdurdod—
(a) copi o’r map ac unrhyw allwedd sy’n mynd gyda’r map neu’n ffurfio rhan ohono;
(b) copi o Ran B o’r datganiad;
(c) enw a chyfeiriad y perchennog perthnasol, gan gynnwys ei god post;
(d) y dyddiad y cafodd y datganiad a’r map eu hadneuo gyda’r awdurdod;
(e) manylion y tir a amlinellir ar y map, gan gynnwys—
(i) cyfeirnod grid chwe ffigur yr Arolwg Ordnans o bwynt o fewn yr ardal a amlinellir;
(ii) enw’r ward etholiadol, y dosbarth neu’r gymuned y mae’r tir ynddo neu ynddi;
(iii) cyfeiriad a chod post yr adeiladau hynny ar y tir y neilltuwyd cod post iddynt; a
(iv) enw’r dref neu’r ddinas sydd agosaf at y pwynt y cyfeirir ato ym mharagraff (i).
8 

(1) Rhaid i’r gofrestr—
(a) cael ei chadw ar ffurf electronig ac ar bapur;
(b) cael ei chadw mewn rhannau fel bod pob rhan—
(i) yn ymwneud â thir o fewn ward etholiadol benodol, dosbarth penodol neu gymuned benodol; a
(ii) yn cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 7.
(2) Rhaid i’r awdurdod gadw’r gofrestr mewn modd sy’n addas i alluogi i gopi o unrhyw fanylion sydd wedi eu cynnwys ar y gofrestr gael ei gymryd gan unrhyw berson, neu ar gyfer unrhyw berson, sy’n gofyn am gopi yn bersonol yn y swyddfa berthnasol.
(3) Rhaid i fersiwn bapur y gofrestr gael ei chadw yn y swyddfa berthnasol.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “swyddfa berthnasol” (“relevant office”) yw—
(a) pan fo’r awdurdod wedi pennu swyddfa at ddiben y Rheoliadau hyn ar ei wefan, y swyddfa a bennwyd felly;
(b) fel arall, prif swyddfa’r awdurdod.
9 

(1) Caiff yr awdurdod dynnu cofnod, neu unrhyw ran o gofnod, o’r gofrestr os yw wedi ei fodloni bod y map neu’r datganiad o dan sylw yn cynnwys camgymeriad perthnasol.
(2) Cyn tynnu cofnod o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod roi rhybudd o ddim llai na 28 o ddiwrnodau i’r perchennog perthnasol o’i fwriad i wneud hynny.
10 
Mae Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018 wedi eu dirymu.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Hydref 2018
ATODLEN 1
Rheoliad 3(1)(a)

ATODLEN 2
Rheoliad 6(5)
