
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.
(2) Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (3), mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a pharth Cymru.
(3) Mae erthyglau 3 a 4 o’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn yr erthygl hon, mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” ac mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
(5) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Tachwedd 2018.
2 

(1) Mae Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), ym mharagraff (2), ar ôl “Chymru” mewnosoder “a pharth Cymru”.
(3) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer y diffiniad o “Erthygl 9”;
(ii) hepgorer y diffiniad o “y Rheoliad CFP”;
(iii) mewnosoder yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor—“
 mae i “Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “Wales” yn rhinwedd adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;”;“
 mae i “parth Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “Welsh zone” yn rhinwedd adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;”;“
 ystyr “y Rheoliad Rheolaeth” (“the Control Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 dyddiedig 20 Tachwedd 2009 sy’n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau’r polisi pysgodfeydd cyffredin, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”;
(iv) yn y diffiniad o “darpariaethau cywerth”, yn lle “Erthygl 9, neu Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Pennod II o Deitl V”; a
(v) yn y diffiniad o “pysgod”, yn lle “mae Erthygl 9 neu Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “mae’r Rheoliad Rheolaeth”;
(b) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Mae i’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nad ydynt wedi eu diffinio ym mharagraff (1) na (2) ac sy’n ymddangos yn y Rheoliad Rheolaeth, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion y Rheoliad Rheolaeth.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Erthygl yn golygu Erthygl o’r Rheoliad Rheolaeth, ac mae cyfeiriad at Bennod II o Deitl V yn golygu Pennod II o Deitl V o’r Rheoliad Rheolaeth.”
(4) Yn rheoliad 3 (cofrestru gwerthwyr pysgod)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 9” rhodder “Pennod II o Deitl V (Rheoli marchnata: gweithgareddau ar ôl glanio)”;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 59, 62, 63, 64, 66 a 67”; ac
(c) ym mharagraff (8)(b) yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 59, 62, 63, 64, 66 neu 67”.
(5) Yn rheoliad 5 (cadw cofnodion gan werthwr pysgod cofrestredig), ym mharagraff (3), yn lle “hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw” rhodder “am 3 blynedd”.
(6) Yn rheoliad 6 (dynodi safleoedd arwerthu pysgod)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 9 ac Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Pennod II o Deitl V”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle “gydag Erthygl 9, Erthygl 22 y Rheoliad CFP” rhodder “gyda Phennod II o Deitl V”; ac
(c) ym mharagraff (7)(b), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Pennod II o Deitl V”.
(7) Yn rheoliad 7 (cofrestru prynwyr pysgod)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “Erthygl 22(2)(b) o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthygl 59”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 y Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 62, 63, 64, 66 a 67”; ac
(c) ym mharagraff (7)(b), yn lle “Erthygl 9, Erthygl 22 o’r Rheoliad CFP” rhodder “Erthyglau 62, 63, 64, 66 neu 67”.
(8) Yn lle rheoliad 8 (prynu pysgod gan brynwr anghofrestredig) rhodder—“
8. 
Bydd unrhyw berson sy’n prynu pysgod yn groes i Erthygl 59(2) yn euog o drosedd, oni bai bod yr esemptiad yn Erthygl 59(3) yn gymwys.”
(9) Yn rheoliad 9 (cadw cofnodion gan brynwr pysgod cofrestredig), ym mharagraff (3), yn lle “hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw” rhodder “, am 3 blynedd”.
(10) Yn rheoliad 13 (pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydain mewn cysylltiad â chychod pysgota), ym mharagraff (1), ar ôl “Cymru” mewnosoder “a pharth Cymru”.
(11) Yn lle rheoliad 15 (pwerau swyddogion pysgod môr Prydain i atafaelu pysgod) rhodder—“
15. 
Caiff unrhyw swyddog pysgod môr Prydain atafaelu unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy’n dal y pysgod) y mae gan y swyddog achos rhesymol dros amau y cyflawnwyd trosedd mewn cysylltiad â hwy o dan y Rheoliadau hyn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gywerth.”
(12) Yn Atodlen 1 (amodau perthnasol i gofrestriadau gwerthwyr pysgod), ym mharagraff 2, yn lle “Erthygl 9” rhodder “Erthyglau 62 i 64”.
(13) Yn Atodlen 3 (amodau perthnasol i gofrestriadau prynwyr pysgod), ym mharagraff 2, yn lle “Erthygl 22(2) o’r Rheoliad Cyngor (EC) 2371/2002” rhodder “Erthyglau 62 i 64”.
3 
Yng Ngorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 2008, yn erthygl 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Nid yw’r Gorchymyn hwn ond yn gymwys i gychod pysgota Prydeinig sydd naill ai—
(a) wedi eu cofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995; neu
(b) o dan berchnogaeth lwyr personau sy’n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o’r Ddeddf honno.”
4 
Yng Ngorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2008, yn erthygl 2 (dehongli), ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 129/2003” hyd at y diwedd, rhodder “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 517/2008 dyddiedig 10 Mehefin 2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 o ran penderfynu ar faint rhwyllau ac asesu trwch cortynnau rhwydi pysgota”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2018