
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Ionawr 2019.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriad at “gwaith adeiladu” i’w ddehongli fel cyfeiriad at waith adeiladu sydd â goblygiadau o ran draenio.
3 

(1) Nid yw gwaith adeiladu a fyddai, oni bai am yr erthygl hon, â goblygiadau o ran draenio i’w drin fel pe bai goblygiadau iddo o ran draenio os caiff ei wneud o dan yr amgylchiadau ym mharagraff (2).
(2) Mae’r amgylchiadau fel a ganlyn—
(a) pan fo gwaith adeiladu yn cael ei wneud gan fwrdd draenio mewnol drwy arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf Draenio Tir 1991;
(b) pan fo gwaith adeiladu yn cael ei wneud at ddiben adeiladu, neu mewn cysylltiad ag adeiladu—
(i) ffordd y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod priffyrdd ar ei chyfer;
(ii) rheilffordd gan Network Rail.
(3) Yn yr erthygl hon—
 mae i “awdurdod priffyrdd” yr ystyr a roddir i “highway authority” yn adran 1 o Ddeddf Priffyrdd 1980;
 mae i “bwrdd draenio mewnol” yr ystyr a roddir i “internal drainage board” yn adran 1 o Ddeddf Draenio Tir 1991;
 ystyr “Network Rail” yw Network Rail Infrastructure Limited (Rhif Cwmni 02904587) y mae ei swyddfa gofrestredig yn 1 Eversholt Street, Llundain, NW1 2DN;
 mae i “rheilffordd” yr un ystyr ag a roddir i “railway” yn adran 67(1) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 yn gymwys i waith adeiladu pan na fo’n ofynnol cael caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith adeiladu.
(2) Nid yw’r eithriad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r gwaith adeiladu yn cynnwys adeiladu adeilad neu strwythur arall ar ddarn o dir sy’n mesur 100 metr sgwâr neu fwy.
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 yn gymwys i unrhyw waith adeiladu, cyn 7 Ionawr 2019—
(a) a gafodd ganiatâd cynllunio neu y tybir iddo gael caniatâd cynllunio mewn cysylltiad ag ef (pa un ai yw’n ddarostyngedig i unrhyw amod o ran mater a gedwir yn ôl ai peidio), neu
(b) yr oedd awdurdod cynllunio lleol wedi cael cais dilys am ganiatâd cynllunio mewn cysylltiad ag ef, ond nad oedd wedi penderfynu arno’n derfynol erbyn y dyddiad hwnnw.
(2) Nid yw’r eithriad ym mharagraff (1) yn gymwys i waith adeiladu y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer cyn 7 Ionawr 2019—
(a) os rhoddwyd y caniatâd yn ddarostyngedig i amod o ran mater a gedwir yn ôl, a
(b) os na wneir cais am gymeradwyaeth ar gyfer y mater a gedwir yn ôl o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 7 Ionawr 2019.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn, ceir cais dilys am ganiatâd cynllunio cyn 7 Ionawr 2019 os cafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw a’i fod yn cydymffurfio â Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.
(4) Yn yr erthygl hon—
 mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr ystyr a roddir i “local planning authority” yn adran 1(1B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 mae i “mater a gedwir yn ôl” yr ystyr a roddir i “reserved matter” yn adran 92(1) o’r Ddeddf honno.
6 

(1) Nid yw’r gofyniad i gael cymeradwyaeth o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 yn gymwys—
(a) pan fo gwaith adeiladu yn cynnwys—
(i) adeiladu un tŷ annedd, a
(ii) darn o dir lle y gwneir y gwaith adeiladu sy’n mesur llai na 100 metr sgwâr, neu
(b) yn achos unrhyw fath arall o waith adeiladu, pan fo’r darn o dir lle y gwneir y gwaith adeiladu yn mesur llai na 100 metr sgwâr.
(2) Mae’r erthygl hon yn gymwys pa un a yw caniatâd cynllunio yn ofynnol ai peidio ar gyfer y gwaith adeiladu.
7 

(1) Y cyfnod y mae’n rhaid i gorff cymeradwyo system ddraenio benderfynu ar archiad i fabwysiadu’r system ddraenio o’i fewn yw—
(a) 8 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo gael yr archiad, neu
(b) unrhyw gyfnod estynedig y cytunwyd arno gan y corff cymeradwyo a’r datblygwr cyn diwedd y cyfnod yn is-baragraff (a).
(2) Tybir bod corff cymeradwyo sy’n methu â phenderfynu ar archiad o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) wedi gwrthod yr archiad.
(3) Yn yr erthygl hon—
 ystyr “archiad i fabwysiadu” (“request to adopt”) yw archiad yn unol â pharagraff 23(2)(b) o Atodlen 3;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn ŵyl banc, o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” yn adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971, neu ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru.
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
10 Hydref 2018