
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhad Adfer Safle) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
2 
Yn adran 29(1) (defnyddio deunydd mewn gwaith adfer safle cymeradwy) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) yn warediad deunydd—
(i) sy’n ddeunydd cymwys i gyd, neu
(ii) sy’n uwchbridd i gyd, a”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
10 Hydref 2018