
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 28 (Cyfnewidfa Parc Tredegar), Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018 a deuant i rym ar 19 Hydref 2018.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M4” (“the M4 motorway”) yw traffordd yr M4 Llundain i Dde Cymru.
2 
Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen.
3 
Yn yr Atodlen i Reoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015, yn lle paragraff (r) rhodder—“
(r) Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) o’r M4 o’r man y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at bwynt 85 o fetrau i’r de o’r pwynt hwnnw.”
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
24 Medi 2018
YR ATODLEN
Rheoliad 2

Y darnau a ganlyn o draffordd yr M4 wrth gyffordd 28 (Cyfnewidfa Tredegar) yn Ninas Casnewydd—
(a) y ffordd ymadael tua’r gorllewin o bwynt 85 o fetrau i’r de o’i chyffordd â’r prif gerbytffordd hyd at bwynt 355 o fetrau i’r de o’r pwynt hwnnw, am bellter o 270 o fetrau; a
(b) y ffordd ymadael tua’r dwyrain o bwynt 155 o fetrau i’r gogledd o’i chyffordd â’r prif gerbytffordd hyd at bwynt 455 o fetrau i’r gogledd o’r pwynt hwnnw, am bellter o 300 metr.
