
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod y daw adran 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 i rym.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “DTGT” yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
RHAN 2
3 
Yn y Rhan hon—
 ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a ddyroddwyd gan ACC o dan reoliad 6 nas tynnwyd yn ôl;
 ystyr “deunydd anghymwys” (“non-qualifying material”) yw deunydd nad yw’n ddeunydd cymwys;
 ystyr “y ganran colled wrth danio” (“LOI percentage”) yw swm y deunydd anghymwys sydd wedi ei gynnwys mewn cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, fel y dangosir gan y ganran o fàs y gronynnau mân hynny a gollir wrth danio;
 ystyr “yr hysbysiad ACC” (“the WRA notice”) yw hysbysiad a gyhoeddwyd gan ACC o dan adran 17(5) o DTGT nas tynnwyd yn ôl drwy hysbysiad cyhoeddedig dilynol;
 ystyr “prawf colled wrth danio” (“LOI test”) yw prawf i ganfod canran colled wrth danio cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân.
4 

(1) Rhaid bodloni’r gofynion a ganlyn (yn ogystal â gofynion 1 i 6 yn adran 16 o DTGT) er mwyn i gymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân gael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau.Gofyniad 1Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig lle y gwneir gwarediad trethadwy o’r cymysgedd fod wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ACC.Gofyniad 2Rhaid i’r gweithredwr feddu ar y dystiolaeth a bennir yn yr hysbysiad ACC ynghylch cymryd y camau hynny.Gofyniad 3Os cynhaliwyd prawf colled wrth danio ar sampl o’r gwarediad trethadwy, ni chaiff y ganran colled wrth danio a ddangoswyd gan y prawf fod yn uwch na 10% (ond gweler paragraff (3)).Gofyniad 4Ni chaiff y cymysgedd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy fod wedi’i wahardd rhag cael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau yn rhinwedd rheoliad 5(3).
(2) Caiff ACC benderfynu bod gofyniad 2 i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gofyniad hwnnw wedi ei fodloni, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
(3) Caiff yr hysbysiad ACC bennu amgylchiadau lle caniateir anwybyddu prawf colled wrth danio sy’n dangos bod y ganran colled wrth danio yn uwch na 10%.
5 

(1) Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gydymffurfio â’r gofynion a ganlyn er mwyn i gymysgeddau o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân gael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau pan fyddant yn cael eu gwaredu ar y safle.Gofyniad 1Rhaid i’r gweithredwr gynnal prawf colled wrth danio ar y cymysgeddau—
(a) ar yr adegau a’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad ACC, oni roddir cyfarwyddyd i’r gweithredwr wneud fel arall o dan reoliad 6, neu
(b) os rhoddir cyfarwyddyd o’r fath i’r gweithredwr, ar yr adegau a’r cyfnodau a bennir yn y cyfarwyddyd.
Gofyniad 2Rhaid i’r gweithredwr, wrth gynnal pob prawf colled wrth danio—
(a) cynhesu sampl o’r cymysgedd a brofir i dymheredd o 440°C am o leiaf 5 awr, a
(b) cydymffurfio ag unrhyw ofyniad arall yn yr hysbysiad ACC sy’n ymwneud â chynnal y prawf.
Gofyniad 3Pan fo—
(a) prawf colled wrth danio yn cael ei gynnal ar sampl o gymysgedd, a
(b) y ganran colled wrth danio a ddangosir gan y prawf yn uwch na 10%,
rhaid i’r gweithredwr gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ACC.Gofyniad 4Rhaid i’r gweithredwr—
(a) cadw’r dystiolaeth a bennir yn yr hysbysiad ACC mewn perthynas â phob prawf colled wrth danio a gynhelir gan y gweithredwr, a
(b) storio’r dystiolaeth yn ddiogel am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Caiff ACC benderfynu bod y gweithredwr i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofyniad 4 os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gweithredwr wedi cydymffurfio â’r gofynion, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
(3) Pan fo’r gweithredwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad a grybwyllir ym mharagraff (1), mae cymysgeddau o ronynnau mân sydd wedi eu cynnwys mewn gwarediadau trethadwy o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad ACC wedi eu gwahardd rhag cael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau.
6 

(1) Caiff ACC drwy hysbysiad roi cyfarwyddyd i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gynnal prawf colled wrth danio ar unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau—
(a) yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân,
(b) sydd o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd, ac
(c) sy’n bresennol ar y safle.
(2) Caniateir amrywio cyfarwyddyd a roddwyd o dan y rheoliad hwn neu ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad ar unrhyw adeg.
7 

(1) Caiff ACC—
(a) cymryd sampl o unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau ar safle tirlenwi awdurdodedig yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, a
(b) cynnal prawf colled wrth danio ar y sampl.
(2) Pan fo ACC yn gwneud hynny, rhaid iddo—
(a) cynnal y prawf drwy gynhesu is-sampl o’r sampl i dymheredd o 440°C am o leiaf 5 awr,
(b) dyroddi hysbysiad am y ganran colled wrth danio a ganfyddir gan y prawf i weithredwr y safle,
(c) cadw—
(i) nid llai nag 1kg o’r sampl, a
(ii) cofnod o ganlyniad y prawf colled wrth danio,
(d) storio’r gyfran a gedwir o’r sampl yn ddiogel am gyfnod o 3 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth berthnasol, ac
(e) storio’r cofnod o ganlyniad y prawf colled wrth danio yn ddiogel am y cyfnod y byddai’n ofynnol i berson y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth ei gadw o dan adran 38 o DCRhT (dyletswydd i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel).
(3) Ym mharagraff (2)(d), y “ffurflen dreth berthnasol” yw’r ffurflen dreth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu y rhoddir cyfrif arni am y dreth sydd i’w chodi am waredu’r cymysgedd.
8 

(1) Mae gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig sy’n—
(a) trin cymysgedd o ddeunyddiau sy’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau wrth roi cyfrif am y dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy, ond
(b) sy’n methu â chydymffurfio—
(i) â gofyniad 2 yn rheoliad 4 (mewn perthynas â’r gwarediad hwnnw), neu
(ii) â gofyniad 4 yn rheoliad 5 (mewn perthynas â’r cymysgedd hwnnw),
yn agored i gosb nad yw’n fwy na £3,000.
(2) Ond nid yw’r gweithredwr yn agored i gosb o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r methiant os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y dystiolaeth pe bai’r gweithredwr wedi cydymffurfio â’r gofynion hynny, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
9 

(1) Pan ddaw gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yn agored i gosb o dan reoliad 8, rhaid i ACC—
(a) asesu’r gosb, a
(b) dyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am y gosb a asesir.
(2) Caniateir cyfuno asesiad o gosb gydag asesiad treth.
(3) Rhaid i asesiad o gosb o dan reoliad 8 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y gweithredwr yn agored i’r gosb.
(4) Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig y dyroddir hysbysiad am gosb iddo o dan y rheoliad hwn dalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182 o DCRhT (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl)).
10 

(1) Nid yw person yn agored i gosb o dan reoliad 8 mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi cael euogfarn am drosedd mewn perthynas â hynny.
(2) Os yw person sy’n agored i gosb o dan reoliad 8 wedi marw, caniateir asesu unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu ar y person ar gynrychiolwyr personol y person.
(3) Mae cosb a asesir yn unol â pharagraff (2) i’w thalu o ystad y person.
11 

(1) Caiff ACC wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol yn—
(a) yr hysbysiad ACC, a
(b) unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan ACC o dan reoliad 6.
(2) Caiff y ddarpariaeth gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth drosiannol sy’n gymwys i weithredwyr safleoedd tirlenwi a oedd, yn union cyn y diwrnod y daw adran 2 o DTGT i rym, wedi eu cofrestru o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid 1996.
RHAN 3
12 

(1) Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer credyd treth mewn cysylltiad â’r dreth.
(2) Enw’r credyd fydd credyd ansolfedd cwsmer.
13 

(1) Yn y Rhan hon—
 mae i “anfoneb dirlenwi” (“landfill invoice”) yr ystyr a roddir yn adran 41(8) o DTGT;
 ystyr “cwsmer” (“customer”), mewn perthynas â gwarediad trethadwy, yw’r person y gwneir y gwarediad ar ei gyfer;
 ystyr “hawliad” (“claim”) yw hawliad yn unol â’r Rhan hon am swm o gredyd ansolfedd cwsmer;
 ystyr “hawlydd” (“claimant”) yw person sy’n gwneud hawliad.
(2) Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at daliad oddi wrth gwsmer yn cynnwys taliad oddi wrth berson arall ar ran y cwsmer.
14 

(1) Mae gan berson (“yr hawlydd”) hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy os bodlonir y gofynion a ganlyn.Gofyniad 1Bod y gwarediad wedi ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig.Gofyniad 2Bod yr hawlydd—
(a) wedi ei gofrestru yn weithredwr y safle ar adeg y gwarediad, a
(b) wedi gwneud y gwarediad, neu wedi caniatáu i’r gwarediad gael ei wneud.
Gofyniad 3Bod y gwarediad wedi ei wneud am gydnabyddiaeth ariannol ar ran person arall (“y cwsmer”)—
(a) nad yw’r hawlydd yn gysylltiedig ag ef, a
(b) nad oedd yr hawlydd yn gysylltiedig ag ef ar adeg y gwarediad.
Gofyniad 4Bod yr hawlydd wedi dyroddi anfoneb dirlenwi i’r cwsmer mewn cysylltiad â’r gwarediad trethadwy—
(a) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed y gwarediad, neu
(b) o fewn unrhyw gyfnod hwy a bennir mewn hysbysiad a ddyroddir i’r hawlydd o dan adran 41(6) o DTGT.
Gofyniad 5Bod yr hawlydd—
(a) wedi rhoi cyfrif am swm y dreth sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r gwarediad ar ffurflen dreth, a
(b) wedi talu swm y dreth sy’n daladwy o dan adran 42(1) neu (1A) o DTGT mewn cysylltiad â’r ffurflen dreth.
Gofyniad 6Bod y cwsmer—
(a) wedi mynd yn ansolfent o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddwyd yr anfoneb dirlenwi, a
(b) wedi methu â thalu i’r hawlydd yr holl gydnabyddiaeth, neu ran ohoni, sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad.
Gofyniad 7Nad yw’r hawlydd wedi gallu adennill y gydnabyddiaeth nas talwyd, er gwaethaf cymryd camau rhesymol i wneud hynny.Gofyniad 8Bod yr hawlydd—
(a) wedi gosod yn erbyn swm y gydnabyddiaeth nas talwyd unrhyw ddyled sy’n ddyledus gan yr hawlydd i’r cwsmer y caniateir ei gosod yn erbyn y swm hwnnw, a
(b) wedi lleihau swm y gydnabyddiaeth nas talwyd gan werth unrhyw sicrhad gorfodadwy a ddelir gan yr hawlydd mewn perthynas â’r cwsmer,
ond bod swm o gydnabyddiaeth yn parhau i fod yn weddill mewn cysylltiad â’r gwarediad.
(2) Er gwaethaf paragraff (1), nid oes gan berson hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy—
(a) os yw’r person wedi cael budd yn flaenorol o unrhyw swm o gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â’r gwarediad, neu
(b) os yw anfoneb dirlenwi wedi ei dyroddi mewn cysylltiad â’r gwarediad ar ôl diwedd y diweddaraf o’r cyfnodau a grybwyllir yng ngofyniad 4.
(3) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at gydnabyddiaeth sy’n weddill, mewn perthynas â gwarediad trethadwy, yn gyfeiriadau at y swm o gydnabyddiaeth a grybwyllir ar ddiwedd gofyniad 8.
15 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth atodol at ddibenion rheoliad 14.
(2) Mae adrannau 1122 a 1123 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (personau cysylltiedig) yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r hawlydd yn gysylltiedig â’r cwsmer fel y crybwyllir yng ngofyniad 3 ai peidio, ac mae adran 1122 o’r Ddeddf honno yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (8)—“
(9) A person (“A”) is connected with any person who is an employee of A or by whom A is employed.
(10) For the purposes of this section, any director or other officer of a company is to be treated as employed by that company.”
(3) Pa fo’r cwsmer wedi gwneud taliad i’r hawlydd, mae rheoliad 16 yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r taliad i’w drin, ac i ba raddau y mae’r taliad i’w drin, fel pe bai wedi ei ddyrannu i dalu’r gydnabyddiaeth sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad (ac, o ganlyniad, pa un a yw’r cwsmer wedi methu â thalu’r gydnabyddiaeth gyfan am y gwarediad, neu ran ohoni, fel y crybwyllir yng ngofyniad 6).
(4) Mae rheoliad 17 yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r cwsmer wedi mynd yn ansolfent fel y crybwyllir yng ngofyniad 6.
(5) Yng ngofyniad 8, ystyr “sicrhad” yw—
(a) mewn perthynas â Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, unrhyw forgais, arwystl, hawlrwym neu sicrhad arall;
(b) mewn perthynas â’r Alban, unrhyw sicrhad (boed etifeddol neu symudol), unrhyw arwystl cyfnewidiol ac unrhyw hawl i hawlrwym neu ffafriaeth neu hawl dargadw (ac eithrio hawl i ddigollediad neu osod yn erbyn);
(c) mewn perthynas ag unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw beth sy’n cael effaith sy’n cyfateb i unrhyw beth a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b).
(6) Mae rheoliad 21(3) yn gymwys at ddiben penderfynu pa un a yw’r hawlydd wedi cael budd yn flaenorol o swm o gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â’r gwarediad fel y crybwyllir yn rheoliad 14(2).
16 

(1) Pan fo—
(a) hawlydd yn derbyn taliad oddi wrth gwsmer y gwnaed gwarediad trethadwy ar ei ran, a
(b) y cwsmer mewn dyled i’r hawlydd mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad,
mae’r taliad fel arfer i’w drin fel pe bai’n cael ei ddyrannu i’r ddyled honno.
(2) Ond pa fo’r cwsmer hefyd mewn dyled i’r hawlydd mewn cysylltiad ag un neu ragor o faterion (pa un a yw neu a ydynt yn ymwneud â gwarediadau trethadwy ai peidio) ac eithrio’r gydnabyddiaeth am y gwarediad, mae’r taliad i’w drin yn lle hynny—
(a) fel pe bai’n cael ei ddyrannu i’r ddyled a gododd gynharaf, a
(b) os yw swm y taliad yn fwy na’r ddyled honno, fel pe bai’n cael ei ddyrannu wedi hynny i’r dyledion eraill yn nhrefn y dyddiadau yr oeddent yn codi.
(3) Pan fo effaith paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol dyrannu taliad (neu ran o daliad) i ddwy ddyled neu ragor sy’n codi ar yr un diwrnod, mae swm y taliad sydd i’w drin fel pe bai’n cael ei ddyrannu i ddyled benodol sy’n codi ar y diwrnod hwnnw i’w gyfrifo yn unol â’r fformiwla a ganlyn—Dyraniad =CT×DCD
 pan fo—
(a) “Dyraniad” yw swm y dyraniad;
(b) CT yw cyfanswm y taliad sydd i’w ddyrannu o dan baragraff (2) i’r dyledion sy’n codi ar y diwrnod hwnnw;
(c) D yw swm y ddyled benodol o dan sylw;
(d) CD yw cyfanswm yr holl ddyledion—
(i) a oedd yn codi ar y diwrnod hwnnw, a
(ii) sy’n ddyledus gan y cwsmer i’r hawlydd.
(4) Pan fo anfoneb dirlenwi wedi ei dyroddi mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, mae pob dyled mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am bob gwarediad i’w thrin fel bai’n codi ar yr un diwrnod (sef y diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd y mae’n rhaid talu’r anfoneb); ac mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys yn unol â hynny.
17 

(1) Mae cwsmer yn mynd yn ansolfent at ddibenion rheoliad 14 os yw—
(a) trefniant gwirfoddol ar ran cwmni yn cael effaith mewn perthynas â’r cwsmer o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986;
(b) gorchymyn gweinyddu (o fewn ystyr Atodlen B1 i’r Ddeddf honno) yn cael ei wneud, neu os caiff derbynnydd neu reolwr, neu dderbynnydd gweinyddol, ei benodi mewn perthynas â’r cwsmer;
(c) achos o ddirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr (o fewn ystyr Rhan 4 o’r Ddeddf honno), neu achos o ddirwyn i ben gan y llys o dan Bennod 6 o Ran 4 o’r Ddeddf honno, yn cael ei gychwyn mewn perthynas â’r cwsmer;
(d) gorchymyn rhyddhau o ddyled yn cael ei wneud mewn perthynas â’r cwsmer o dan Ran 7A o’r Ddeddf honno;
(e) trefniant gwirfoddol unigol yn cael effaith mewn perthynas â’r cwsmer o dan Ran 8 o’r Ddeddf honno;
(f) gorchymyn methdalu (o fewn ystyr Rhan 9 o’r Ddeddf honno) yn cael ei wneud mewn perthynas â’r cwsmer;
(g) unrhyw ddigwyddiad cyfatebol yn digwydd sy’n cael effaith o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu o ganlyniad iddi.
(2) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddigwyddiad ansolfedd yn gyfeiriadau at ddigwyddiad a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a) i (g).
18 

(1) Mae swm y credyd ansolfedd cwsmer y mae gan berson hawl iddo mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy i’w gyfrifo yn unol â’r fformiwla a ganlyn—Credyd =T×SGC
 pan fo—
(a) “Credyd” yn swm y credyd ansolfedd cwsmer;
(b) T yn swm y dreth y mae’r person wedi rhoi cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad mewn ffurflen dreth, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3);
(c) SG yn swm y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gwarediad (gweler rheoliad 14(3)), yn ddarostyngedig i baragraff (3);
(d) C y gydnabyddiaeth am y gwarediad, yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(2) Pan fo swm y dreth y rhoddir cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad yn cynyddu, anwybydder y cynnydd hwnnw.
(3) Pan fo swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad yn llai na swm y dreth y rhoddwyd cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad (gan anwybyddu unrhyw gynnydd)—
(a) T yw swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad;
(b) mae C ac SG ill dau i’w lleihau gan swm sy’n hafal â’r gwahaniaeth rhwng y ddau swm o dreth.
19 

(1) Caiff person cofrestredig sydd â hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy hawlio’r credyd mewn ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad ag—
(a) y cyfnod cyfrifyddu cymwys cyntaf, neu
(b) unrhyw gyfnod cyfrifyddu dilynol.
(2) Y cyfnod cyfrifyddu cymwys cyntaf yw’r cyfnod cyfrifyddu y daw’r cyfnod o 6 mis, sy’n dechrau â dyddiad y digwyddiad ansolfedd perthnasol, i ben ynddo.
(3) Mae’r hawliad i’w wneud yn y ffurflen dreth—
(a) drwy osod swm y credyd yn erbyn swm y dreth y byddai fel arall yn ofynnol i’r person ei dalu o dan adran 42(1) o DTGT mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu perthnasol, a
(b) os yw swm y credyd yn fwy na swm y dreth, drwy ddatgan swm y credyd gormodol.
(4) Pan fo swm o gredyd gormodol yn cael ei ddatgan yn y ffurflen dreth yn unol â pharagraff (3)(b)—
(a) caiff ACC osod y swm hwnnw yn erbyn unrhyw swm o dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dalu ond nad yw wedi ei dalu eto, a
(b) os oes unrhyw swm o gredyd gormodol yn weddill, rhaid i ACC dalu i’r person swm sy’n hafal â’r swm hwnnw sy’n weddill.
(5) Ond nid yw’n ofynnol i ACC wneud taliad o dan baragraff (4)(b) oni bai, a hyd nes, bod pob ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r dreth wedi ei dychwelyd.
(6) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “y digwyddiad ansolfedd perthnasol” (“the relevant insolvency event”) yw’r digwyddiad ansolfedd a arweiniodd at hawlogaeth i gredyd mewn cysylltiad â’r gwarediad trethadwy;
 ystyr “y cyfnod cyfrifyddu perthnasol” (“the relevant accounting period”) yw’r cyfnod cyfrifyddu y dychwelir y ffurflen dreth sy’n cynnwys yr hawliad mewn cysylltiad ag ef.
20 

(1) Caiff person—
(a) nad yw’n gofrestredig, a
(b) sydd â hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy,
hawlio’r credyd drwy wneud cais ysgrifenedig i ACC.
(2) Ni chaniateir gwneud cais o dan baragraff (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â dyddiad y digwyddiad ansolfedd perthnasol.
(3) Os yw ACC wedi ei fodloni—
(a) nad yw’r person yn gofrestredig,
(b) bod gan y person hawlogaeth i swm o gredyd ansolfedd cwsmer, ac
(c) nad yw’r hawlogaeth i’r credyd wedi ei throsglwyddo i unrhyw berson arall,
rhaid i ACC dalu i’r person swm sy’n hafal â swm y credyd.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y digwyddiad ansolfedd perthnasol” yw’r digwyddiad ansolfedd a arweiniodd at hawlogaeth i gredyd mewn cysylltiad â’r gwarediad trethadwy.
21 

(1) Rhaid i hawliad am gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy fod am gyfanswm y credyd mewn cysylltiad â’r gwarediad hwnnw (yn hytrach na rhan o’r swm yn unig).
(2) Pan fo gan berson hawlogaeth i gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â mwy nag un gwarediad trethadwy, caniateir gwneud hawliad mewn cysylltiad â phob un o’r gwarediadau hynny, neu mewn cysylltiad ag un ohonynt neu rai ohonynt yn unig.
(3) Pan fo—
(a) swm o gredyd ansolfedd cwsmer wedi ei osod, o dan reoliad 19(3)(a) neu (4)(a), yn erbyn swm o dreth y byddai’n ofynnol i berson ei dalu fel arall, neu
(b) swm sy’n hafal â swm credyd ansolfedd cwsmer yn cael ei dalu i berson o dan reoliad 19(4)(b) neu 20(3),
mae’r person i’w drin, at ddibenion y Rhan hon, fel pe bai wedi cael budd o’r swm hwnnw o gredyd.
22 

(1) Rhaid i hawlydd—
(a) ar y diwrnod y gwneir yr hawliad, feddu ar y dystiolaeth a bennir ym mharagraff (2) mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r hawliad yn ymwneud ag ef, a
(b) storio’r dystiolaeth honno’n ddiogel am gyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw.
(2) Y dystiolaeth yw—
(a) copi o’r anfoneb dirlenwi a ddyroddwyd mewn cysylltiad â’r gwarediad;
(b) cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n dangos bod yr hawlydd—
(i) wedi rhoi cyfrif am y gwarediad mewn ffurflen dreth, a
(ii) wedi talu’r swm o dreth sy’n daladwy o dan adran 42(1) neu (1A) o DTGT mewn cysylltiad â’r ffurflen dreth;
(c) cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag unrhyw daliad a wnaed gan y cwsmer mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad;
(d) cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag—
(i) unrhyw ddyled sy’n ddyledus gan yr hawlydd i’r cwsmer, neu
(ii) unrhyw sicrhad gorfodadwy a ddelir gan yr hawlydd mewn perthynas â’r cwsmer;
(e) cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag unrhyw gamau a gymerwyd i adennill y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus am y gwarediad.
23 

(1) Rhaid i hawlydd gadw cofnod cyfredol o’r hawliad (sef “cofnod credyd ansolfedd cwsmer”) drwy gydol y cyfnod cofnodi.
(2) Mae’r cyfnod cofnodi yn dechrau â’r diwrnod y gwneir yr hawliad, ac yn dod i ben â’r dyddiad sydd 6 mlynedd ar ôl y diweddaraf o blith—
(a) y diwrnod y gwnaed yr hawliad, a
(b) y diwrnod y diweddarwyd cofnod yr hawliad ddiwethaf.
(3) Rhaid i’r cofnod gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r hawliad yn ymwneud ag ef—
(a) swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad;
(b) y gydnabyddiaeth am y gwarediad;
(c) y ffurflen dreth y rhoddwyd cyfrif am y gwarediad ynddi, a’r dyddiad y talwyd unrhyw dreth oedd yn daladwy mewn cysylltiad â’r ffurflen;
(d) rhif adnabod yr anfoneb dirlenwi a ddyroddwyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, a’r dyddiad y’i dyroddwyd;
(e) yn achos gwaredu deunydd y mae disgrifiad ysgrifenedig ohono yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1)(c)(ii) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, y disgrifiad ysgrifenedig;
(f) y swm a dalwyd mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad, gan gynnwys unrhyw daliad a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei ddyrannu i’r ddyled honno yn rhinwedd rheoliad 16 (boed cyn neu ar ôl gwneud yr hawliad), a swm y gydnabyddiaeth sy’n weddill;
(g) unrhyw gamau a gymerwyd i adennill y gydnabyddiaeth sy’n weddill am y gwarediad.
(4) Rhaid i’r cofnod hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) cyfanswm yr hawliad;
(b) y ffurflen dreth y gwnaed yr hawliad ynddi;
(c) cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n weddill y gwneir yr hawliad mewn cysylltiad â hi.
(5) Pan fo hawlydd yn gwneud mwy nag un hawliad, rhaid cadw’r cofnodion y mae’n rhaid eu cadw o dan y rheoliad hwn mewn un cyfrif (a elwir “y crynodeb credyd ansolfedd cwsmer”).
24 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hawlydd—
(a) wedi cael budd o swm o gredyd ansolfedd cwsmer mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy (gweler rheoliad 21(3)), a
(b) ar ôl hynny yn derbyn taliad oddi wrth y cwsmer sy’n cael ei drin, yn rhinwedd rheoliad 16, fel pe bai wedi ei ddyrannu, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, i’r ddyled sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad.
(2) Rhaid i’r hawlydd dalu i ACC, cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hawlydd yn derbyn taliad y cwsmer, swm a gyfrifir yn unol â’r fformiwla ym mharagraff (3).
(3) Y fformiwla yw—Taliad =CredydP×TSG
 pan fo—
(a) “Taliad” yw swm y taliad y mae’n rhaid ei wneud i ACC;
(b) “CredydP” yw’r swm perthnasol o gredyd ansolfedd cwsmer;
(c) T yw swm y taliad a gaiff ei drin fel pe bai wedi ei ddyrannu i’r ddyled sy’n ddyledus mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth am y gwarediad, fel y disgrifir ym mharagraff (1)(b);
(d) SG yw—
(i) y swm a gaiff ei drin fel SG at ddibenion cyfrifo swm y credyd mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan reoliad 18(1), llai
(ii) unrhyw swm a dderbynnir oddi wrth y cwsmer sydd eisoes wedi ei drin fel T o dan y rheoliad hwn.
(4) Y swm perthnasol o gredyd ansolfedd cwsmer yw—
(a) swm y credyd a gyfrifir mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan reoliad 18(1), llai
(b) unrhyw swm y bu eisoes yn ofynnol i’r hawlydd ei dalu i ACC mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan y rheoliad hwn.
25 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hawlydd—
(a) wedi cael budd o swm o gredyd ansolfedd cwsmer o ganlyniad i hawliad (gweler rheoliad 21(3)), ond
(b) wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan reoliad 22 neu 23 mewn cysylltiad â’r hawliad.
(2) Rhaid i ACC—
(a) asesu’r swm o gredyd ansolfedd cwsmer y mae’r hawlydd wedi cael budd ohono mewn cysylltiad â’r hawliad, a
(b) dyroddi hysbysiad i’r hawlydd—
(i) yn pennu’r swm a aseswyd, a
(ii) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu swm sy’n hafal â’r swm hwnnw i ACC.
(3) Rhaid i’r hawlydd dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad i ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.
(4) Nid yw’n ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad o dan baragraff (2) os yw wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n ei gwneud yn rhesymol ofynnol iddynt gael eu profi, ac a fyddai wedi eu profi gan y cofnodion neu’r dystiolaeth arall sy’n ofynnol o dan reoliad 22 neu 23, wedi eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
(5) Nid yw’n ofynnol i hawlydd y dyroddir hysbysiad iddo o dan baragraff (2) dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad i ACC—
(a) os yw’r hawlydd yn cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, ynghylch y ffeithiau a fyddai wedi eu profi gan y cofnodion neu’r dystiolaeth arall sy’n ofynnol o dan reoliad 22 neu 23, a
(b) os yw ACC yn dyroddi hysbysiad pellach i’r hawlydd yn datgan bod y dystiolaeth yn profi, er boddhad ACC, y ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi.
26 
Mae’r Atodlen yn gwneud diwygiadau i DTGT a DCRhT.
27 
Mae adrannau 74 i 77 o DCRhT (ymholiadau ynghylch hawliadau) yn gymwys i hawliadau o dan reoliad 20 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i hawliadau o dan adran 62, 63 neu 63A o’r Ddeddf honno ond fel pe bai—
(a) yn adran 74, y cyfeiriadau at ddiwygio hawliad wedi eu hepgor,
(b) yn adran 75, is-adran (3) wedi ei hepgor, ac
(c) yn adran 77(1)(b), y cyfeiriad at ollwng neu ad-dalu treth ddatganoledig yn gyfeiriad at dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2018
YR ATODLEN
Rheoliad 26
RHAN 1
1 
Mae DTGT wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2 
Yn adran 37 o DTGT (canslo cofrestriad), yn is-adran (4)—
(a) mae’r geiriau o “bod yr holl dreth y mae’n ofynnol i’r person ei thalu” hyd at y diwedd yn dod yn baragraff (a);
(b) ar ddiwedd y paragraff hwnnw mewnosoder“, a
(b) bod yr holl gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo ac y mae’r person wedi ei hawlio—
(i) wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i’r person ei dalu, neu
(ii) wedi ei dalu i’r person.”
3 
Yn adran 42 o DTGT (talu treth), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—“
(1A) Ond os yw swm o gredyd treth wedi ei osod yn erbyn y swm hwnnw o dreth yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 54, y swm o dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dalu erbyn y dyddiad hwnnw yw’r swm sy’n parhau i fod yn weddill ar ôl y gosod yn erbyn (os oes unrhyw swm o’r fath).”
4 
Yn adran 43 o DTGT (dyletswydd i gadw crynodeb treth gwarediadau tirlenwi), yn is-adran (1)—
(a) hepgorer yr “a” ar ddiwedd paragraff (a);
(b) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“
(aa) swm y credyd treth a hawliwyd gan y person, a”.
5 
Yn adran 77 o DTGT (dynodi grŵp o gwmnïau), yn is-adran (8)—
(a) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;”;
(b) ym mharagraff (c), yn lle “neu (b)” rhodder “, (b) neu (ba)”.
6 
Yn adran 83 o DTGT (dyletswyddau a rhwymedigaethau partneriaethau a chyrff anghorfforedig), yn is-adran (8)—
(a) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;”;
(b) ym mharagraff (c), yn lle “neu (b)” rhodder “, (b) neu (ba)”.
7 
Yn adran 96 o DTGT (dehongli), yn is-adran (1), mewnosoder yn y man priodol—“
 ystyr “credyd treth” (“tax credit”) yw credyd treth o dan reoliadau a wneir o dan adran 54;”.
RHAN 2
8 
Mae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.
9 
Yn adran 37 o DCRhT (trosolwg o Ran 3), ym mharagraff (e), yn lle “os na chynhelir ymholiad” rhodder “ac o symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth”.
10 
Yn adran 44 o DCRhT (cwmpas ymholiad), yn is-adran (1)—
(a) hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (a);
(b) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(c) sy’n ymwneud â’r cwestiwn pa un a oes gan y person a ddychwelodd y ffurflen dreth hawlogaeth i gredyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth, neu
(d) sy’n ymwneud â’r swm o gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo.”
11 

(1) Mae adran 45 o DCRhT (diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad er mwyn osgoi colli treth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—“
(1A) Os yw ACC, yn ystod y cyfnod pan fo ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo, yn dod i’r casgliad—
(a) bod swm y credyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth yn ormodol, a
(b) ei bod yn debygol, oni chaiff y ffurflen dreth ei diwygio ar unwaith, y collir treth ddatganoledig,
caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd fel nad yw’r swm a hawlir yn ormodol mwyach.”
(3) Yn is-adran (2)—
(a) mae’r geiriau o “nid yw is-adran (1) yn gymwys” hyd at y diwedd yn dod yn baragraff (a);
(b) ar ddiwedd y paragraff hwnnw mewnosoder“, a
(b) nid yw is-adran (1A) yn gymwys ond i’r graddau y mae’r swm gormodol i’w briodoli i’r diwygiad.”
(4) Yn is-adran (3), ar ôl “is-adran (1)” mewnosoder “neu (1A)”.
12 
Ar ôl adran 55 o DCRhT mewnosoder—“
55A. 
Os yw ACC yn dod i’r casgliad—
(a) mewn perthynas â swm o gredyd treth sydd wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i berson ei dalu—
(i) na ddylid fod wedi ei osod yn erbyn y swm o dreth, neu
(ii) ei fod wedi mynd yn ormodol,
(b) mewn perthynas â swm a dalwyd i berson mewn cysylltiad â chredyd treth—
(i) na ddylid fod wedi ei dalu, neu
(ii) ei fod wedi mynd yn ormodol, neu
(c) nad yw swm y mae’n ofynnol i berson ei dalu i ACC mewn cysylltiad â chredyd treth wedi ei dalu,caiff ACC wneud asesiad o’r swm y dylid bod wedi ei dalu i ACC, ym marn ACC, er mwyn unioni’r mater.”
13 
Yn adran 56 o DCRhT (cyfeiriadau at “asesiad ACC”), yn lle “neu 55” rhodder “, 55 neu 55A”.
14 
Yn adran 57 o DCRhT (cyfeiriadau at y “trethdalwr”), ym mharagraff (b), ar ôl “adran 55” mewnosoder “neu 55A”.
15 

(1) Mae adran 58 o DCRhT (amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (1), ym mharagraff (a)—
(a) yn lle “tri” rhodder “pedwar”;
(b) yn lle “a (3A)” rhodder “, (3A) a (3B)”.
(3) ar ôl is-adran (3A) mewnosoder—“
(3B) Y pedwerydd achos yw pan fo ACC wedi dod i’r casgliad fod y sefyllfa a ddisgrifir yn adran 55A wedi digwydd.”
16 

(1) Mae adran 59 o DCRhT (terfynau amser ar gyfer asesiadau ACC) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (1), ar ôl “dyddiad perthnasol” mewnosoder “mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54, 55 neu 55A(a) neu (b)”.
(3) Yn is-adran (2), yn lle “neu 55” rhodder “, 55 neu 55A(a) neu (b)”.
(4) Yn is-adran (3), yn lle “neu 55” rhodder “, 55 neu 55A(a) neu (b)”.
(5) Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—“
(4A) Ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c)—
(a) os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr sy’n gwneud talu’r swm o dan sylw yn ofynnol, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd y taliad yn ofynnol, a
(b) fel arall, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i’r trethdalwr dalu’r swm o dan sylw.”
(6) Yn is-adran (7)—
(a) yng ngeiriau agoriadol y diffiniad o “dyddiad perthnasol”, ar ôl “(“relevant date”)” mewnosoder “, mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55,”;
(b) ar ôl y diffiniad o “dyddiad perthnasol” mewnosoder—“
 ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”), mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), yw—
(a) pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, y dyddiad ffeilio;
(b) pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth;
(c) pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod y gwnaed yr hawliad.”
17 
Yn adran 81D o DCRhT (diffiniadau sy’n ymwneud â’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi), yn y diffiniad o “mantais drethiannol”—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl paragraff (d);
(b) ar ddiwedd paragraff (e) mewnosoder“, ac
(f) credyd treth neu gredyd treth uwch.”
18 

(1) Mae adran 84 o DCRhT (ystyr “sefyllfa dreth”) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (1), ym mharagraff (b)—
(a) ar ôl “cosbau” mewnosoder “credydau treth”;
(b) ar ôl “gosbau” mewnosoder “a symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth”.
(3) Ym mharagraff (c) o’r is-adran honno, ar ôl “dreth ddatganoledig” mewnosoder “neu unrhyw swm mewn cysylltiad â chredyd treth”.
19 
Ar ôl adran 84 o DCRhT mewnosoder—“
84A. 
Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn cynnwys niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu unrhyw swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.”
20 
Yn adran 93 (pŵer i gael manylion cyswllt dyledwyr), yn is-adran (2)—
(a) hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (c);
(b) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(e) taliad mewn cysylltiad â chredyd treth, neu
(f) llog ar daliad mewn cysylltiad â chredyd treth,”.
21 
Yn adran 100 o DCRhT (hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen dreth), yn is-adran (5)—
(a) hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (b);
(b) ar ôl paragraff (c) mewnosoder—“
(d) ei bod yn bosibl bod swm o gredyd treth nad oes gan y person hawlogaeth iddo wedi ei hawlio, neu
(e) ei bod yn bosibl bod hawliad am gredyd treth yn ormodol neu wedi mynd yn ormodol.”
22 
Yn adran 117 o DCRhT (trosolwg o Ran 5), yn is-adran (1), ym mharagraff (a), ar ôl “trethi datganoledig” mewnosoder “neu symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth”.
23 
Yn y pennawd i Bennod 2 o Ran 5 o DCRhT (cosbau am fethu â dychwelyd ffurflenni neu dalu treth), ar y diwedd mewnosoder “NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH”.
24 
Yn adran 122 o DCRhT (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd), yn Nhabl A1, yn eitem 2 yng ngholofn 3, yn lle “a ddatgenir mewn” rhodder “sy’n daladwy o ganlyniad i”.
25 
Ar ôl adran 122A o DCRhT mewnosoder—“
123A. 

(1) Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson dalu swm o ganlyniad i asesiad ACC a wneir o dan adran 55A.
(2) Mae person yn agored i gosb os yw’n yn methu â thalu’r swm ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny.
(3) Y dyddiad cosbi yw’r dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.
(4) Y gosb yw 5% o’r swm sy’n daladwy o ganlyniad i’r asesiad ACC.”
26 

(1) Mae adran 126 o DCRhT (esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—“
(2A) Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol dros fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 123A mewn perthynas â’r methiant.”
(3) Yn is-adran (3), yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “a (2)” rhodder “, (2) a (2A)”.
(4) Ym mhennawd yr adran, ar y diwedd mewnosoder “neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth”.
27 

(1) Mae adran 127 o DCRhT (asesu cosbau o dan Bennod 2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (1), ym mharagraff (c), yn lle “neu’r trafodiad” rhodder “, y trafodiad neu’r swm”.
(3) Ar ôl is-adran (6) mewnosoder—“
(6A) Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r credyd treth o dan sylw.
(6B) Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A yn seiliedig ar swm y darganfyddir ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.”
(4) Yn is-adran (7), yn lle “neu (6)” rhodder “, (6) neu (6B)”.
28 

(1) Mae adran 128 o DCRhT  (terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (2)—
(a) hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (a);
(b) ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder“, neu
(c) yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, â’r dyddiad cosbi.”
(3) Yn is-adran (3), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(c) yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o’r swm yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef.”
(4) Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—“
(4A) Yn is-adran (2)(c), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 123A(3).”
(5) Yn is-adran (5), yn y geiriau cyn paragraff (a), hepgorer “(a) a (b)”.
29 
Yn adran 129 o DCRhT (cosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACC), yn is-adran (2)—
(a) hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (b);
(b) ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder“, neu
(d) hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.”
30 
Yn adran 132 o DCRhT (cosb am anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC gan berson arall), yn is-adran (2)—
(a) hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (b);
(b) ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder“, neu
(d) hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.”
31 
Yn adran 133 o DCRhT (cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad neu danddyfarniad), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—“
(1A) Mae person hefyd yn agored i gosb pan fo—
(a) asesiad ACC o dan adran 55A yn tanddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person ei dalu i ACC, a
(b) y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am
yr asesiad, ei fod yn danasesiad.”
32 

(1) Mae adran 135 o DCRhT (refeniw posibl a gollir: y rheol arferol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (1), yn y geiriau ar ôl paragraff (b), ar ôl “threth ddatganoledig” mewnosoder “neu gredyd treth”.
(3) Yn is-adran (2)—
(a) hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a);
(b) ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder“ac
(c) swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.”
33 
Yn adran 136 o DCRhT (refeniw posibl a gollir: camgymeriadau lluosog) yn is-adran (2)—
(a) yn lle “neu drafodiad”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “, trafodiad neu hawliad am gredyd treth”;
(b) yn lle “neu drafodiad”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “, trafodiad neu hawliad am gredyd treth”.
34 
Yn adran 139 o DCRhT (gostwng cosb o dan Bennod 3 am ddatgelu), yn is-adran (2) —
(a) hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (b);
(b) ar ôl paragraff (c) mewnosoder—“
(d) anghywirdeb sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,
(e) bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth, neu
(f) methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad ag atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.”
35 
Yn adran 141 o DCRhT (asesu cosbau o dan Bennod 3), yn is-adran (1), ym mharagraff (c), yn lle “neu drafodiad” rhodder “, trafodiad neu hawliad am gredyd treth”.
36 

(1) Mae adran 151 o DCRhT (cosb gysylltiedig â threth am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am
rwystro) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (1), ym mharagraff (c)—
(a) mae’r geiriau o “swm y dreth ddatganoledig” hyd at “y mae’n debygol o’i dalu,” yn dod yn is-baragraff (i);
(b) ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw mewnosoder“neu
(ii) y swm y mae’r person wedi ei dalu, neu y mae’n debygol o’i dalu mewn cysylltiad â chredyd treth,”.
(3) Yn is-adran (3)—
(a) mae’r geiriau “swm y dreth ddatganoledig” yn dod yn is-baragraff (i);
(b) ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw mewnosoder“, neu
(ii) y swm mewn cysylltiad â chredyd treth,”.
37 
Ar ôl adran 157A o DCRhT mewnosoder—“
157B. 

(1) Mae’r adran hon yn gymwys i swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.
(2) Os na thelir y swm ar y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol ei dalu neu cyn hynny, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—
(a) sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a
(b) sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.
(3) Pan fo’r swm yn daladwy o ganlyniad i asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw—
(a) os hawliwyd y credyd treth o dan sylw mewn ffurflen dreth, y diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth;
(b) os hawliwyd y credyd treth o dan sylw drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod ar ôl y diwrnod y talwyd swm sy’n hafal â’r swm i berson mewn cysylltiad â’r hawliad.
(4) Pan fo’r swm yn daladwy o ganlyniad i asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.
(5) Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr at ddibenion yr adran hon yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.”
38 
Yn adran 158 o DCRhT (llog taliadau hwyr: atodol), yn is-adran (1), yn lle “a 157A” rhodder “, 157A a 157B”.
39 
Yn adran 160 o DCRhT (dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr: marwolaeth trethdalwr), yn is-adran (1), ym mharagraff (a), yn lle “person y mae swm o dreth ddatganoledig i’w godi arno neu gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig i’w chodi arno” rhodder“person—
(i) y mae swm o dreth ddatganoledig i’w godi arno neu gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig i’w chodi arno, neu
(ii) y mae’n ofynnol iddo dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,”.
40 

(1) Mae adran 161 o DCRhT (llog ad-daliadau ar symiau sy’n daladwy gan ACC) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (2)—
(a) hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (a);
(b) ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder“, neu
(c) swm mewn cysylltiad â chredyd treth.”
(3) Yn is-adran (4), ym mharagraff (b), yn lle “(2)(a) neu (b)” rhodder “(2)(a), (b) neu (c)”.
41 
Yn adran 164 o DCRhT (ystyr “swm perthnasol” yn Rhan 7), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(e) swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;
(f) llog ar swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.”
42 

(1) Mae adran 169 o DCRhT (achosion yn llys yr ynadon) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (4)—
(a) ar ôl “neu’n gosb” mewnosoder “neu’n swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth”;
(b) yn lle “neu’r gosb” rhodder “, y gosb neu’r swm arall”.
(3) Yn is-adran (5)—
(a) ar ôl “neu’n gosb” mewnosoder “neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth”;
(b) yn lle “neu’r gosb” rhodder “, y gosb neu’r swm arall”.
43 
Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (k) mewnosoder—“
(l) penderfyniad sy’n ymwneud â chredyd treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi.”
44 
Yn y pennawd i Bennod 3A o Ran 8 o DCRhT, ar ôl “TRETH DDATGANOLEDIG” mewnosoder “ETC”.
45 
Ar ôl adran 181I mewnosoder—“
181J. 

(1) Mae’r Bennod hon yn gymwys i dalu ac adennill symiau sy’n ymwneud â chredydau treth—
(a) fel pe bai cyfeiriadau at swm o dreth ddatganoledig (gan gynnwys symiau o dreth gwarediadau tirlenwi) yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth,
(b) fel pe bai cyfeiriadau at log ar swm o dreth ddatganoledig yn gyfeiriadau at log ar swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, ac
(c) fel pe bai cyfeiriadau at dreth ddatganoledig yn cael ei chodi neu i’w chodi ar berson yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth.”
46 
Yn adran 183A o DCRhT (atal ad-daliad pan fo apêl bellach yn yr arfaeth), yn is-adran (1), ym mharagraff (a)—
(a) mae’r geiriau o “bod ACC i ad-dalu” i “gan berson,” yn dod yn is-baragraff (i);
(b) ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder“neu
(ii) bod swm a dalwyd gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth i’w ad-dalu gan ACC,”.
47 
Yn adran 192 o DCRhT (dehongli), yn is-adran (2), mewnosoder yn y man priodol —“
 ystyr “credyd treth” (“tax credit”) yw credyd treth o dan reoliadau a wneir o dan adran 54 o DTGT;”.
48 
Yn adran 193 o DCRhT (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir), mewnosoder yn y man priodol—
Credyd treth (“tax credit”) adran 192(2)