
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Tachwedd 2017.
2 

(1) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr awdurdod trwyddedu” i’w darllen yn unol â hynny.
(2) Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth sydd wedi ei heithrio o fewn yr ystyr a roddir i “excepted functions” yn adran 98(6) o’r Ddeddf honno.
3 

(1) Mae’r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) wedi eu dynodi at ddibenion adran 98(1)(a) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.
(2) Y swyddogaethau yw unrhyw swyddogaeth yr awdurdod trwyddedu o dan—
(a) adran 67A (cyngor a chymorth arall gan Weinidogion Cymru);
(b) adran 72A (ffioedd pellach sydd i’w codi os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol);
(c) adran 107A (blaendaliadau ar gyfrif ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru);
(d) adran 107B (darpariaethau atodol ynghylch ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru);
(e) Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017;
(f) Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd) (Cymru) 2017.
4 
Mae’r swyddogaethau sydd wedi eu dynodi gan erthygl 3, yn hytrach na bod yn arferadwy gan yr awdurdod trwyddedu, neu mewn perthynas ag ef, yn arferadwy gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, neu mewn perthynas ag ef, yn gweithredu ar ran yr awdurdod trwyddedu.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
27 Medi 2017