
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 1) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 18 Hydref 2017—
(a) adran 14(3) a (6) (cyfradd safonol a chyfradd is y dreth gwarediadau tirlenwi) at ddiben gwneud rheoliadau;
(b) adran 17 (cymysgedd cymwys o ddeunyddiau: gronynnau man);
(c) adran 33 (pŵer i addasu rhyddhadau);
(d) adran 41(9) (pŵer i ddiwygio Atodlen 3);
(e) adran 46(4) (cyfradd dreth gwarediadau tirlenwi sydd heb eu hawdurdodi) at ddiben gwneud rheoliadau;
(f) adran 54 (pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth);
(g) adran 87 (pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo busnesau fel busnesau gweithredol); ac
(h) adran 91 (arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon).
3 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 8 Tachwedd 2017—
(a) adran 60 (datgelu gwybodaeth i Awdurdod Cyllid Cymru); a
(b) adran 92 (Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi).
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2017