
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 1) 2017.
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 ddod i rym yw 18 Hydref 2017— 

(a) adran 9(6) (tir sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr);
(b) adran 24 (rheoliadau sy’n pennu bandiau treth a chyfraddau treth) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau o dan is-adrannau (1) ac (11);
(c) adran 25 (gweithdrefn ar gyfer rheoliadau sy’n pennu bandiau treth a chyfraddau treth);
(d) adran 30(1) (rhyddhadau) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau yn Atodlen 11 (rhyddhad bondiau buddsoddi cyllid arall) y cyfeirir atynt ym mharagraff (e);
(e) yn Atodlen 11—
(i) paragraff 2 (dehongli);
(ii) paragraff 9(1) (amod 4) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(iii) paragraff 16 (gollwng pridiant tir pan fodlonir amodau ar gyfer rhyddhad) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(iv) paragraff 18(4)(a) a (5) (disodli ased) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(f) adran 32(2) (lesoedd) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 28 a 36(1)(b) o Atodlen 6 (lesoedd);
(g) yn Atodlen 6—
(i) paragraff 28 (cyfraddau treth a bandiau treth: elfen rhent lesoedd amhreswyl a lesoedd cymysg);
(ii) paragraff 36(1)(b) (y rhent perthnasol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(h) adran 65(5), (6) a (7)(b) (cofrestru trafodiadau tir);
(i) adran 76 (diwygiadau i DCRhT) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 8 o Atodlen 23 (diwygiadau i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016); a
(j) paragraff 8 o Atodlen 23.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2017