
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 9) (Cymru) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
2 
1 Rhagfyr 2017 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym o ran Cymru—
(a) adran 8(2) ac Atodlen 1 (plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol: darpariaethau atodol a chanlyniadol) i’r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 19 o’r Atodlen honno;
(b) adran 10(2) (swyddogion adolygu annibynnol);
(c) adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu fel y’i pennir yn yr Atodlen honno ddarpariaethau yn—
(i) adran 59 o Ddeddf Plant 1989;
(ii) adran 105(1) o Ddeddf Plant 1989;
(iii) adran 806(5) o Ddeddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 2005;
(iv) adran 18(8)(a) o Ddeddf Gofal Plant 2006.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
26  Medi 2017