
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth am y Gweithlu Ysgolion) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol yng Nghymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw athro sydd wedi ei gymhwyso neu athrawes sydd wedi ei chymhwyso yn unol ag adran 132 o Ddeddf 2002;
 mae i “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yr ystyr a roddir iddo yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;
 ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw un o’r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (b) i (d) o adran 103(1) o Ddeddf 2002;
 ystyr “cyfnod y cyfrifiad” (“census period”) yw’r cyfnod a bennir mewn cais am wybodaeth a wneir o dan y Rheoliadau hyn;
 mae “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) i gael ei ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf 2002;
 ystyr “cyfrifiad CYBLD” (“PLASC census”) yw’r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion a gwblheir gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag ysgolion yn eu hardal ac a gyflwynir i Weinidogion Cymru ar sail flynyddol yn unol ag adran 29 o Ddeddf 1996;
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg y parheir â’i fodolaeth gan adran 2 o Ddeddf 2014;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
 ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 neu sy’n ŵyl gyhoeddus arall;
 ystyr “dyddiad y cyfrifiad” (“census date”) yw’r dyddiad a bennir mewn cais am wybodaeth a wneir o dan y Rheoliadau hyn;
 ystyr “y Ddogfen” (“the Document”) yw dogfen y gwneir darpariaeth, drwy gyfeirio ati, ar gyfer tâl ac amodau cyflogaeth eraill athrawon ysgol mewn gorchymyn a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 122 o Ddeddf 2002;
 ystyr “gweinyddwr y Cynllun Pensiwn Athrawon” (“the administrator of the Teacher’s Pension Scheme”) yw’r person sy’n arfer, yn unol ag erthygl 3 o Orchymyn Contractio Allan (Gweinyddu’r Cynllun Pensiwn Athrawon) 2003, y swyddogaethau a nodir yn y Gorchymyn hwnnw;
 ystyr “meysydd dysgu” (“areas of learning”) yw’r meysydd dysgu a nodir mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(2)(a) o Ddeddf 2002;
 ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gedwir gan y Cyngor o dan adran 9 o Ddeddf 2014;
 ystyr “pynciau” (“subjects”) yw’r pynciau a nodir yn adran 105(2) a (3) ac adran 106(2) a (3) o Ddeddf 2002.
3 
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys ond mewn cysylltiad â gweithiwr cymhwysol a hyfforddai cymhwysol—
(a) sydd, ar ddyddiad y cyfrifiad, yn cael ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i weithio yn yr ysgol; neu
(b) yn ystod cyfnod cyfan y cyfrifiad neu ran ohono—
(i) sy’n cael ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen fel arall neu sydd wedi cael ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen fel arall i weithio yn yr ysgol am o leiaf 28 o ddiwrnodau gwaith (“y Cyfnod”); neu
(ii) a fydd wedi cwblhau’r Cyfnod erbyn diwedd ei gontract.
4 
At ddibenion adran 114(2)(c) o Ddeddf 2005, mae awdurdod lleol yn berson rhagnodedig.
5 
Pan fydd yn cael cais oddi wrth awdurdod lleol, rhaid i berchennog yr ysgol honno ddarparu i’r awdurdod lleol hwnnw yr wybodaeth honno a nodir yn yr Atodlen y gofynnir amdani mewn perthynas â—
(a) gweithiwr cymhwysol; neu
(b) hyfforddai cymhwysol.
6 
O fewn 27 o ddiwrnodau gwaith i gael cais oddi wrth Weinidogion Cymru, rhaid i awdurdod lleol ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth—
(a) sydd wedi ei gyflenwi i’r awdurdod lleol hwnnw o dan reoliad 5; neu
(b) sydd wedi ei nodi yn yr Atodlen y gofynnir amdani mewn perthynas ag—
(i) gweithiwr cymhwysol; neu
(ii) hyfforddai cymhwysol.
7 

(1) At ddibenion adran 114(3) o Ddeddf 2005, mae’r canlynol yn bersonau rhagnodedig—
(a) Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;
(b) yr Ysgrifennydd Gwladol;
(c) gweinyddwr y Cynllun Pensiwn Athrawon;
(d) awdurdod lleol yng Nghymru;
(e) y Cyngor;
(f) perchennog ysgol yng Nghymru;
(g) swyddfa economeg y gweithlu; a
(h) personau sy’n cynnal gwaith ymchwil sy’n ymwneud â gweithwyr cymhwysol neu hyfforddeion cymhwysol y gellir disgwyl iddo fod o fudd i’r cyhoedd.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu’r wybodaeth honno y cyfeirir ati yn yr Atodlen mewn cysylltiad â phersonau sydd neu sydd wedi bod yn weithwyr cymhwysol neu’n hyfforddeion cymhwysol i unrhyw berson a ragnodir ym mharagraff (1).
8 

(1) At ddibenion adran 114(6) o Ddeddf 2005, mae’r canlynol yn bersonau rhagnodedig—
(a) awdurdod lleol yng Nghymru;
(b) perchennog yr ysgol lle—
(i) y mae’r gweithiwr cymhwysol yn gweithio neu i fod i ddechrau gweithio;
(ii) y mae’r hyfforddai cymhwysol yn hyfforddi neu i fod i ddechrau hyfforddi; ac
(c) Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw wybodaeth mewn cysylltiad â phersonau sydd neu sydd wedi bod yn weithwyr cymhwysol neu’n hyfforddeion cymhwysol i unrhyw berson a ragnodir ym mharagraff (1).
9 
Ni chaiff unrhyw berson y cyflenwir gwybodaeth iddo yn rhinwedd y Rheoliadau hyn ddatgelu’r wybodaeth honno ymhellach ac eithrio yn unol â gorchymyn llys, deddfiad neu reol gyfreithiol.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
20 Medi 2017
YR ATODLEN
Rheoliad 5
1 
Yr wybodaeth a ganlyn am y person—
(a) rhyw;
(b) dyddiad geni;
(c) rhif yswiriant gwladol;
(d) enw llawn;
(e) grŵp ethnig (os yw’n hysbys);
(f) a oes gan y person anabledd o fewn ystyr “disability” yn adran 6(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (os yw’n hysbys); ac
(g) cyfeirnod swyddogol a neilltuwyd gan y Cyngor, pan fo cyfeirnod o’r fath ar gael.
2 
Swydd y person a’r rôl neu’r rolau a gyflawnir gan y person.
3 
A yw’r person wedi cyrraedd y safonau sy’n ofynnol ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel uwch a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd.
4 
Mewn cysylltiad â’r contract cyflogaeth neu’r contract am wasanaethau—
(a) a yw’r person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau (“y Contract”);
(b) y dyddiad y dechreuodd y Contract;
(c) yr oriau a’r wythnosau (os oes rhai) y pennodd y Contract y mae rhaid eu gweithio; a
(d) pan fo’n gymwys, y dyddiad y daeth y Contract hwnnw i ben neu y mae i fod i ddod i ben.
5 
Pan fo’r person wedi ei gymryd ymlaen ar gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau er dyddiad y cyfrifiad blaenorol neu er diwedd cyfnod y cyfrifiad blaenorol, manylion cyflogaeth neu fel arall y person hwnnw yn union cyn y dechrau hwnnw, os ydynt yn hysbys.
6 
Pan fo’r person wedi ei gyflogi neu yn cael ei gyflogi, neu wedi ei gymryd ymlaen neu yn cael ei gymryd ymlaen i weithio, mewn cyfnod o gyflogaeth ddi-dor, y dyddiad y dechreuodd y cyfnod hwnnw.
7 
Tâl y person gan gynnwys, pan fo’n gymwys—
(a) y cyflog blynyddol;
(b) yr ystod cyflog sy’n gymwys i’r person hwnnw;
(c) safle’r cyflog blynyddol ar unrhyw ystod cyflog gymwys;
(d) a yw unrhyw ran o’r cyflog blynyddol wedi ei diogelu o fewn ystyr Rhan 5 o’r Ddogfen;
(e) a yw cyfradd cyflog ddyddiol yn daladwy; ac
(f) unrhyw daliadau ychwanegol y darperir ar eu cyfer gan—
(i) y Ddogfen; neu
(ii) cod sy’n cyfleu’r wybodaeth honno.
8 
Mewn perthynas â’r addysgu a gyflawnir gan y person (“P”)—
(a) y meysydd dysgu neu’r pynciau a addysgir gan P;
(b) a yw P yn addysgu’r cyfnod sylfaen;
(c) a yw P yn addysgu’r cyfnodau allweddol ac os felly, pa gyfnodau allweddol;
(d) a yw P yn addysgu meysydd dysgu neu bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg ac eithrio maes dysgu datblygu’r Gymraeg neu’r Gymraeg fel pwnc;
(e) blwyddyn ysgol y cwricwlwm cenedlaethol a addysgir gan P;
(f) yr enw a roddir i’r dosbarth ysgol gynradd gan y pennaeth at ddiben nodi’r dosbarth hwnnw ac sy’n cael ei gynnwys yn y cyfrifiad CYBLD a pha ddosbarth a addysgir gan P; ac
(g) faint o ddysgu y mae P wedi ei ddarparu neu y disgwylir iddo ei ddarparu yn yr ystafell ddosbarth yn ystod y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau ar y dydd Llun yn union cyn dyddiad y cyfrifiad.
9 
Pan fo’r person yn absennol ar ddyddiad y cyfrifiad, y ffaith ei fod yn absennol.
10 
Mewn cysylltiad â phob achlysur y bu person yn absennol o’r gwaith ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y cyfrifiad neu ar ddyddiad y cyfrifiad—
(a) y rheswm dros yr absenoldeb; a
(b) ar gyfer y cyfnod absenoldeb hwnnw, y diwrnod cyntaf a, phan fo’n gymwys, y dyddiad olaf yr oedd y person yn absennol a nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd.
11 
Pan fo contract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau y person (“P”) wedi ei derfynu yn ystod cyfnod y cyfrifiad—
(a) y rheswm dros y terfyniad hwnnw;
(b) os yw’n hysbys, a yw P wedi sicrhau cyflogaeth bellach, ac os felly, ei lleoliad a’i math:
(c) blynyddoedd ysgol y cwricwlwm cenedlaethol a addysgwyd gan P yn ystod y cyfnod cyfrifiad hwnnw; a
(d) os yw’n hysbys, nifer y blynyddoedd o brofiad addysgu a enillwyd gan P er dod yn athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig ar yr adeg y terfynwyd swydd P.
12 
Pa un a yw’r person yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio.
13 
Lefel sgiliau Cymraeg person.
14 
Mewn cysylltiad â phob swydd wag ar gyfer staff addysgu yn yr ysgol a hysbysebwyd yn ystod cyfnod y cyfrifiad—
(a) a yw’r swydd wag wedi ei llenwi;
(b) os yw’r swydd wag wedi ei llenwi, y dyddiad y penodwyd person i’r swydd;
(c) os nad yw’r swydd wag wedi ei llenwi, y rheswm pam na chafodd ei llenwi;
(d) teitl y swydd ar gyfer y swydd wag;
(e) y meysydd dysgu y bydd yn ofynnol i ymgeisydd llwyddiannus eu haddysgu;
(f) y pynciau y bydd yn ofynnol i ymgeisydd llwyddiannus eu haddysgu;
(g) y cyfnodau allweddol y bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus eu haddysgu;
(h) blwyddyn ysgol y cwricwlwm cenedlaethol y bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus ei haddysgu;
(i) a yw’r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd wag;
(j) nifer y ceisiadau a gafwyd am y swydd wag; a
(k) y dyddiad y cafodd y swydd wag ei hysbysebu gyntaf.