
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Asesiadau Llesiant Lleol) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Hydref 2017.
2 
Wrth lunio asesiad o dan adran 37(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â’r materion a ddisgrifir yn adran 38(3) o’r Ddeddf honno, roi sylw i’r materion a restrir yn yr Atodlen.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Medi 2017
YR ATODLEN
Rheoliad 2
1 
Yr adolygiad diweddaraf o ansawdd aer ar gyfer yr ardal awdurdod lleol a gyflawnwyd o dan adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
2 
Y mapiau sŵn strategol diweddaraf a luniwyd o dan Ran 2 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 ac a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru.