
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol (Cymru) a Chychwyn Rhif 4 (Cymru) (Diwygio)) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965; ac
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 i rym ar 20 Medi 2017—
(a) adran 20(1) (edrych ar wybodaeth); a
(b) adran 21(1) (copïau swyddogol).
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 i rym at bob diben sy’n weddill ar 20 Medi 2017—
(a) adran 20(2) a (3) (edrych ar wybodaeth); a
(b) adran 21(2) a (3) (copïau swyddogol).
4 

(1) Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae cyfeiriadau yn adrannau 20(1) ac 21(1) o Ddeddf 2006 at gofrestr o dir comin neu feysydd tref neu bentref, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymryd fel pe baent yn gyfeiriadau at gofrestr o’r fath a gynhelir o dan adrannau 1 a 3 o Ddeddf 1965.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae adrannau 20 ac 21 o Ddeddf 2006 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y darpariaethau hynny, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymhwyso fel pe bai, yn adran 61(2)(b) o Ddeddf 2006, “sections 1 and 3 of the Commons Registration Act 1965” wedi ei roi yn lle’r geiriau “Part 1 of this Act”.
5 

(1) Gydag effaith o 20 Medi 2017, mae Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2017 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 3 ychwaneger—“
4. 

(1) Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae cyfeiriadau yn adrannau 19 a 22 o Ddeddf 2006, ac Atodlen 2 iddi, ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y darpariaethau hynny, at gofrestr o dir comin neu feysydd tref neu bentref, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymryd fel pe baent yn gyfeiriadau at gofrestr o’r fath a gynhelir o dan adrannau 1 a 3 o Ddeddf 1965.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw ardal yng Nghymru, mae adrannau 19 a 22 o Ddeddf 2006, ac Atodlen 2 iddi, ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y darpariaethau hynny, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â’r ardal honno, i’w cymhwyso fel pe bai, yn adran 61(2)(b) o Ddeddf 2006, “sections 1 and 3 of the Commons Registration Act 1965” wedi ei roi yn lle’r geiriau “Part 1 of this Act”.”
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
18 Medi 2017