
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Hydref 2017.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “AaGIC” yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
2 
Mae Awdurdod Iechyd Arbennig o’r enw Addysg a Gwella Iechyd Cymru neu Health Education and Improvement Wales wedi ei sefydlu.
3 

(1) Mae AaGIC i arfer—
(a) unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â chynllunio, comisiynu a chyflenwi addysg a hyfforddiant ar gyfer personau sy’n gyflogedig, neu sy’n ystyried dod yn gyflogedig, mewn unrhyw weithgaredd sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu sy’n gysylltiedig â hynny; a
(b) unrhyw swyddogaethau eraill;
a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “gwasanaethau iechyd” yw gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
4 

(1) Mae gan AaGIC—
(a) cadeirydd;
(b) dim mwy na 6 aelod arall nad ydynt yn swyddogion AaGIC yn ychwanegol at y cadeirydd; ac
(c) dim mwy na 5 aelod arall sy’n swyddogion AaGIC gan gynnwys y person sydd, am y tro, yn dal swydd y prif weithredwr.
(2) Ni chaiff nifer yr aelodau sy’n swyddogion AaGIC fod yn fwy na nifer yr aelodau nad ydynt yn swyddogion o’r fath.
5 
Mae Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960 i fod yn gymwys i AaGIC.
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
11 Medi 2017