
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Gyrchfannau) (Gweithgareddau Rhagnodedig) (Cymru) 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 6 Hydref 2017.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw unrhyw gyfnod sy’n dechrau ar 1 Awst neu ar ôl hynny ac sy’n dod i ben ar 31 Gorffennaf neu cyn hynny.
3 

(1) At ddibenion adran 49B(2) a 49B(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, ar gyfer y flwyddyn academaidd yn union ar ôl y flwyddyn academaidd pryd y peidiodd y myfyriwr â bod yn fyfyriwr yn y sefydliad perthnasol, mae’r gweithgareddau rhagnodedig fel a ganlyn—
(a) unrhyw ffurf o addysg a wneir gan y myfyriwr;
(b) unrhyw ffurf o gyflogaeth a wneir gan y myfyriwr; ac
(c) unrhyw ffurf o hyfforddiant a wneir gan y myfyriwr.
Alun Davies
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru.
7 Medi 2017