
RHAN 1: CYFLWYNIAD
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru 2017 a deuant i rym ar 11 Medi 2017.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
 ystyr “y Pwyllgor” (“the Committee”) yw Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru a sefydlir yn unol ag adran 26B(1) o’r Ddeddf; ac
 ystyr “sefydliad rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol” (“flood and coastal erosion risk management organisation”) yw sefydliad sy’n ymwneud, i unrhyw raddau, â’r sector rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
RHAN 2: CYFANSODDIAD
3 
Bydd y Pwyllgor yn cynnwys—
(a) cadeirydd (“y Cadeirydd”) (gweler rheoliad 4); a
(b) hyd at 14 o aelodau eraill (“aelodau’r Pwyllgor”) (gweler rheoliad 5).
4 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi’r Cadeirydd, yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus, am ba bynnag gyfnod a bennir mewn offeryn penodi.
(2) Rhaid nodi telerau penodi’r Cadeirydd yn yr offeryn penodi.
(3) Caiff y Cadeirydd ymddiswyddo drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad y Cadeirydd cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr offeryn penodi os ydynt wedi eu bodloni—
(a) nad yw’r Cadeirydd wedi cydymffurfio â thelerau’r penodiad; neu
(b) bod y Cadeirydd fel arall yn analluog neu’n anaddas i barhau i fod yn Gadeirydd.
5 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi hyd at 14 o aelodau Pwyllgor am ba bynnag gyfnod a bennir mewn offeryn penodi.
(2) Rhaid i bob aelod o’r Pwyllgor fod naill ai—
(a) yn arbenigwr ar faterion y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn berthnasol; neu
(b) yn gynrychiolydd enwebedig sefydliad rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
(3) Rhaid i unrhyw benodiad yn unol â pharagraff (2)(a) gydymffurfio â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y Pwyllgor yn cynnwys aelodau o’r ddau gategori a bennir ym mharagraff (2).
(5) Rhaid nodi telerau penodi aelod o’r Pwyllgor yn yr offeryn penodi.
(6) Caiff aelod o’r Pwyllgor ymddiswyddo drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad aelod o’r Pwyllgor cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr offeryn penodi os ydynt wedi eu bodloni—
(a) nad yw’r aelod o’r Pwyllgor wedi cydymffurfio â thelerau’r penodiad; neu
(b) bod yr aelod o’r Pwyllgor fel arall yn analluog neu’n anaddas i barhau i fod yn aelod o’r Pwyllgor.
6 
Caiff Gweinidogion Cymru dalu taliadau cydnabyddiaeth a lwfansau i’r Cadeirydd a thalu lwfansau i aelodau’r Pwyllgor.
7 
Caiff Gweinidogion Cymru dalu unrhyw lwfansau a bennir gan y Cadeirydd ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru i unrhyw berson a benodir i is-bwyllgor (gweler rheoliad 14).
RHAN 3: SWYDDOGAETHAU
8 
Yn ddarostyngedig i reoliad 9, caiff y Pwyllgor gynghori ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
9 

(1) Rhaid i’r Pwyllgor gynghori Gweinidogion Cymru ynghylch—
(a) rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol o bob ffynhonnell;
(b) materion ehangach o ran cydnerthedd ac argyfyngau o safbwynt rheoli perygl llifogydd;
(c) y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol; a
(d) gwaith a gyflawnir gan sefydliadau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
(2) Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan reoliad 9(1), rhaid i’r Pwyllgor wneud unrhyw argymhellion y mae’n credu eu bod yn arwain at waith partneriaeth effeithiol rhwng awdurdodau rheoli risg Cymru a sefydliadau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
10 
Caiff y Pwyllgor—
(a) sefydlu ei raglen ei hun o waith cynghori ar berygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru;
(b) cynghori awdurdodau rheoli risg Cymru ynghylch rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol o bob ffynhonnell;
(c) cynghori awdurdodau rheoli risg Cymru ynghylch materion ehangach o ran cydnerthedd ac argyfyngau o safbwynt rheoli perygl llifogydd;
(d) cynghori awdurdodau rheoli risg Cymru ar y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol; ac
(e) ymrwymo i gytundebau â chyrff eraill, yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
11 

(1) Rhaid i’r Pwyllgor gynnal ei gyfarfod cyntaf o fewn 6 mis i’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, a rhaid cynnal cyfarfodydd dilynol fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis ar ôl hynny.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), caiff y Pwyllgor reoleiddio pa mor aml y bydd yn cynnal ei gyfarfodydd.
12 

(1) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd, rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y modd y bu iddo arfer a chyflawni ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod hwnnw.
(2) Rhaid i’r adroddiad o dan baragraff (1) gynnwys—
(a) crynodeb o’r cyngor a roddwyd gan y Pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw; a
(b) manylion aelodaeth, is-bwyllgorau, cyfarfodydd a’r taliadau cydnabyddiaeth a’r lwfansau a ddarparwyd.
(3) At ddibenion paragraff (1), ystyr “cyfnod adrodd” yw—
(a) y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2018 ac sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2018; a
(b) pob cyfnod o 12 mis hyd at 5 Ebrill ar ôl hynny.
RHAN 4: TRAFODION
13 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 11 a pharagraff (2) o’r rheoliad hwn, caiff y Pwyllgor reoleiddio ei weithdrefn ei hun, gan gynnwys gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r cworwm ar gyfer ei gyfarfodydd a’i weithdrefn bleidleisio.
(2) Mae gweithdrefn y Pwyllgor mewn perthynas â chworwm yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
14 

(1) Caiff y Pwyllgor sefydlu is-bwyllgorau drwy bleidlais fwyafrifol, i gyfarfod yn unol â chyfarwyddyd y Pwyllgor.
(2) Mae cylch gorchwyl is-bwyllgor yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
(3) Caiff y Pwyllgor reoleiddio gweithdrefn unrhyw is-bwyllgor a sefydlir ganddo, gan gynnwys gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r cworwm ar gyfer ei gyfarfodydd a’i weithdrefn bleidleisio.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Awst 2017