
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Gorffennaf 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso), yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—“
 mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
 ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015;
 mae i “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
 mae i “teulu” (“family”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
 ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth;.”.
(3) Yn rheoliad 4 (amser pan fo’n rhaid adolygu pob achos), ym mharagraff (3) hepgorer y geiriau “swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny” a mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—“
(a) swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny, neu
(b) plentyn yn rhan o deulu y mae ei achos wedi ei gyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd a bod y teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm hwnnw.”.
(4) Yn rheoliad 6 (ystyriaethau y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt)—
(a) ailrifer y ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b) ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifir), mewnosoder y paragraff a ganlyn—“
(2) Mae’r ystyriaethau ychwanegol y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos plentyn pan fo’r plentyn yn rhan o deulu sy’n cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi yn Atodlen 5.”.
(5) Yn rheoliad 8 (ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu)—
(a) ym mharagraff (1), yn union cyn is-baragraff (d), hepgorer y gair “a” a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—“
(cha) yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o’r tîm hwnnw; a”;
(b) ym mharagraff (3), yn union cyn is-baragraff (d), hepgorer y gair “a” a mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—“
(cha) yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o’r tîm hwnnw; a”.
(6) Ar ôl Atodlen 3 (ystyriaethau iechyd y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt), mewnosoder fel Atodlen 5 yr Atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
3 

(1) Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—“
 mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
 ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015;
 mae i “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
 mae i “teulu” (“family”), mewn perthynas â pherson sy’n rhan o deulu sy’n cael cymorth gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
 ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth;.”.
(3) Yn rheoliad 4 (adolygu cynlluniau)—
(a) ar ôl paragraff (1) mewnosoder y canlynol—“
(1A) Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth os yw’r person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef yn rhan o deulu y mae ei achos wedi ei atgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd a bod y teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm hwnnw.”.
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder y canlynol—“
(3) Mae’r ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt wrth adolygu cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth person pan fo’r person yn rhan o deulu sy’n cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi yn yr Atodlen.”.
(4) Ar ddiwedd y Rheoliadau mewnosoder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.
4 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y lle priodol mewnosoder—
 “mae i “corff partneriaeth” (“partnership body”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(4) o’r Rheoliadau Partneriaeth;
 ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015;”; a
(b) yn lle’r diffiniad o “tîm integredig cymorth i deuluoedd” rhodder y canlynol—
 “ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd sydd wedi ei sefydlu gan gorff partneriaeth yn unol â’r Rheoliadau Partneriaeth;”.
(3) Yn rheoliad 41 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt)—
(a) ym mharagraff (1) yn lle “mharagraff 1” rhodder “mharagraffau 1 i 17”,
(b) ym mharagraff (2) yn lle “mharagraff 2” rhodder “mharagraffau 18 i 26”,
(c) ar ôl paragraff (2) mewnosoder y paragraff a ganlyn—“
(3) Ym mharagraff (2) ac yn Atodlen 8—
 mae i “teulu” (“family”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(3) o’r Rheoliadau Partneriaeth.”.
(4) Yn rheoliad 57 (addasiadau i Ran 2), ym mharagraff (4)(b) yn lle “rheoliad (5)” rhodder “rheoliad 7(5)”.
(5) Yn Atodlen 8 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C), ar ôl paragraff 17 mewnosoder y canlynol—“
18. 
Manylion am unrhyw gynllun gofal neu gynllun triniaeth iechyd ar gyfer P.
19. 
Manylion am unrhyw gymorth neu wasanaethau a ddarperir ar gyfer P gan unrhyw berson.
20. 
Unrhyw newidiadau yng ngallu P i ofalu am blant, ac yn enwedig mewn perthynas ag C, o ganlyniad i’r gwasanaethau gofal iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarperir gan unrhyw berson, neu o ganlyniad i unrhyw ffactorau eraill.
21. 
Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’r teulu ers yr adolygiad diwethaf.
22. 
Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i’r teulu sy’n berthnasol.
23. 
Unrhyw anawsterau y gall y teulu fod wedi eu cael wrth ymwneud â’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.
24. 
A oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion C ac anghenion P, neu anghenion unrhyw aelod arall o aelwyd P, a sut y gellir datrys hyn.
25. 
Yr angen i baratoi i ddod â rhan y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben.
26. 
Ym mharagraffau 18 i 25—
 Mae “P” i gael ei ddehongli fel pe bai’n gyfeiriad at “rhiant” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5) o’r Rheoliadau Partneriaeth.”.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
26 Mehefin 2017
ATODLEN 1
Y Rhaglith


Y deddfiad sy’n rhoi pŵer
Deddf Plant 1989 Adrannau 59(4), 104(4) ac Atodlen 6, paragraff 10(1)
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Adrannau 54(5) a (6), 83(5) a 196(2)





ATODLEN 2
Rheoliad 2

“
ATODLEN 5
Rheoliad 6
1. 
Manylion o unrhyw gynllun gofal neu gynllun triniaeth iechyd ar gyfer rhiant.
2. 
Manylion o unrhyw gymorth neu wasanaethau a ddarperir i riant gan unrhyw berson.
3. 
Unrhyw newidiadau yng ngallu rhiant i rianta o ganlyniad i’r gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarperir, neu o ganlyniad i unrhyw ffactorau eraill.
4. 
Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’r teulu ers yr adolygiad diwethaf.
5. 
Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i’r teulu sy’n berthnasol.
6. 
Unrhyw anawsterau y gall y teulu fod wedi eu cael wrth ymwneud â’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.
7. 
A oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion y plentyn ac anghenion rhiant, neu anghenion unrhyw aelod arall o’r teulu, a sut y gellir datrys hyn.
8. 
Yr angen i baratoi i ddod â rhan y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben. ”.

ATODLEN 3
Rheoliad 3

“
YR ATODLEN
Rheoliad 4
1. 
Manylion unrhyw gynllun gofal neu gynllun triniaeth iechyd ar gyfer rhiant.
2. 
Manylion unrhyw gymorth neu wasanaethau a ddarperir i riant gan unrhyw berson.
3. 
Unrhyw newidiadau yng ngallu rhiant i rianta o ganlyniad i’r gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarperir, neu o ganlyniad i unrhyw ffactorau eraill.
4. 
Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’r teulu ers yr adolygiad diwethaf.
5. 
Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i’r teulu sy’n berthnasol.
6. 
Unrhyw anawsterau y gall y teulu fod wedi eu cael wrth ymwneud â’r tîm integredig cymorth i deuluoedd.
7. 
A oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion y plentyn ac anghenion rhiant, neu anghenion unrhyw aelod arall o’r teulu, a sut y gellir datrys hyn.
8. 
Yr angen i baratoi i ddod â rhan y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben.”.
