
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Gorffennaf 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 3 (myfyrwyr cymwys)—
(a) ar ddechrau paragraff 3(k), mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (8),”;
(b) yn lle paragraff (8), rhodder—“
(8) Caiff Gweinidogion Cymru farnu bod person a ddisgrifir ym mharagraff (3)(i) neu (3)(k) yn fyfyriwr cymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad oedd y person wedi gallu cwblhau’r cwrs yr oedd y benthyciad blaenorol yn ymwneud ag ef o ganlyniad i resymau personol cadarn.”
4 
Yn rheoliad 14(3) o’r testun Saesneg, ar ôl “payment of”, hepgorer “the”.
5 
Yn Atodlen 1 (Myfyrwyr Cymwys), is-baragraff 9(1)—
(a) yn y testun Saesneg, ar ôl “person”, hepgorer “who”;
(b) yn y testun Saesneg, ar ddechrau paragraff (a), mewnosoder “who”;
(c) ym mharagraff (a), hepgorer “naill ai”;
(d) ar ddechrau paragraff (b), hepgorer “yn” a mewnosoder “sy’n”;
(e) ar ddiwedd paragraff (b), hepgorer “neu”;
(f) ar ddechrau paragraff (c), mewnosoder “sydd”.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2017