
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Adolygu Penderfyniadau Cofrestru) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 31 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adolygiad” (“review”) yw adolygiad a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan adran 1AE o Ddeddf 1979;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw perchennog neu feddiannydd yr heneb sy’n gwneud cais am adolygiad;
 mae i “datganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad” (“the Welsh Ministers’ review statement”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8(1);
 mae i “datganiad ymchwiliad” (“inquiry statement”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 17(1)(a);
 ystyr “Deddf 1979” (“the 1979 Act”) yw Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979;
 mae i “dyddiad dechrau” (“starting date”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(1)(a);
 ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad a gynhelir o dan adran 1AE(5)(b) o Ddeddf 1979 (adolygu penderfyniadau ar ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr);
 ystyr “materion penodedig” (“specified matters”), mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir drwy wrandawiad neu ymchwiliad, yw’r materion a bennir gan y person penodedig i gael eu hystyried yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad;
 ystyr “person â buddiant” (“interested person”) yw unrhyw berson, ac eithrio’r ceisydd, a hysbysir neu yr ymgynghorir ag ef o dan adran 1AA o Ddeddf 1979 (dyletswydd i ymgynghori ar ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r Gofrestr) ynghylch cynnig Gweinidogion Cymru i—
(a) cynnwys yr heneb y mae adolygiad yn ymwneud â hi ar y Gofrestr; neu
(b) gwneud diwygiad perthnasol o’r math a ddisgrifir yn adran 1AA(5)(a) o Ddeddf 1979 i’r heneb ar y Gofrestr;
 ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 1 o Atodlen A2 i Ddeddf 1979;
 ystyr “ymchwiliad” (“inquiry”) yw ymchwiliad lleol cyhoeddus a gynhelir o dan adran 1AE(5)(a) o Ddeddf 1979.
RHAN 2
3 

(1) Mae adolygiad y gwneir cais amdano ar y naill neu’r llall o’r seiliau a nodir yn rheoliad 4 wedi ei ragnodi fel dosbarth o adolygiadau at ddibenion paragraff 1(1) o Atodlen A2 i Ddeddf 1979.
(2) Mae’r penderfyniad ar adolygiad sy’n perthyn i’r dosbarth a grybwyllir ym mharagraff (1) i’w wneud gan berson penodedig.
4 
Ni chaniateir gwneud cais am adolygiad ac eithrio ar y sail—
(a) nad yw’r heneb y mae’r adolygiad yn ymwneud â hi yn heneb o bwysigrwydd cenedlaethol; neu
(b) bod diwygiad perthnasol o’r math a ddisgrifir yn adran 1AA(5)(a) o Ddeddf 1979 mewn perthynas â’r heneb ar y Gofrestr yn amhriodol.
5 

(1) Rhaid gwneud cais am adolygiad i Weinidogion Cymru yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i gais—
(a) fod ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi), gan gynnwys—
(i) enw’r heneb y mae’r cais yn ymwneud â hi;
(ii) cyfeiriad yr heneb neu ddisgrifiad o leoliad y tir y mae’r heneb wedi ei lleoli arno;
(iii) enw a chyfeiriad y ceisydd;
(iv) datganiad yn cadarnhau pa un a yw’r ceisydd yn berchennog neu’n feddiannydd yr heneb;
(v) enw a chyfeiriad cynrychiolydd y ceisydd (os oes un) a chadarnhad o ran pa un a ddylid anfon unrhyw hysbysiad neu ohebiaeth arall y mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’w hanfon at y ceisydd, at y cynrychiolydd yn hytrach na’r ceisydd;
(vi) datganiad yn nodi manylion llawn sail yr adolygiad, gan gynnwys yr holl faterion y mae’r ceisydd yn bwriadu eu codi yn ystod yr adolygiad ac y mae’r ceisydd yn ystyried y dylai’r person penodedig eu hystyried wrth gynnal yr adolygiad;
(vii) datganiad o ran drwy ba un o’r dulliau (neu gyfuniad o ddulliau) a grybwyllir yn adran 1AE(5) o Ddeddf 1979 y mae’r ceisydd yn ystyried y dylid cynnal yr adolygiad; a
(b) cynnwys y canlynol—
(i) yr holl ddogfennau, deunyddiau a thystiolaeth y mae’r ceisydd yn bwriadu dibynnu arnynt yn ystod yr adolygiad;
(ii) copi o’r hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r heneb o dan adran 1AE(2) o Ddeddf 1979;
(iii) pan na fo’r ceisydd yn berchennog yr heneb ond bod perchennog yn hysbys i’r ceisydd, tystysgrif yn cadarnhau bod perchennog yr heneb wedi ei hysbysu ynghylch bwriad y ceisydd i ofyn am yr adolygiad;
(iv) pan na fo’r ceisydd yn berchennog yr heneb ac nad oes perchennog yn hysbys i’r ceisydd, tystysgrif lofnodedig yn cadarnhau bod y ceisydd wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybod pwy yw unrhyw berchennog o’r fath ond wedi methu â gwneud hynny.
(3) Rhaid gwneud cais o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i berchennog neu feddiannydd yr heneb o dan adran 1AE(2) o Ddeddf 1979.
6 

(1) Rhaid i’r person penodedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael cais yn unol â rheoliad 5 roi gwybod i’r ceisydd a Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am—
(a) dyddiad dechrau’r adolygiad (“y dyddiad dechrau”);
(b) y rhif cyfeirnod a ddyrennir i’r adolygiad; ac
(c) y cyfeiriad y mae cyfathrebiadau ysgrifenedig ynghylch yr adolygiad i’w hanfon iddo.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y cawsant hysbysiad o dan baragraff (1) anfon at y ceisydd a’r person penodedig gopi o unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn flaenorol i Weinidogion Cymru o dan adran 1AA o Ddeddf 1979 gan unrhyw berson â buddiant.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc.
7 

(1) Rhaid i’r person penodedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod y cyfeirir ato yn rheoliad 6(2) roi hysbysiad ysgrifenedig am yr adolygiad i—
(a) pob person â buddiant; a
(b) unrhyw berson neu gorff arall y mae’r person penodedig yn ystyried eu bod yn briodol.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)—
(a) datgan enw’r ceisydd a chyfeiriad yr heneb y mae’r adolygiad yn ymwneud â hi;
(b) nodi’r materion yr hysbyswyd y ceisydd amdanynt o dan reoliad 6(1);
(c) cadarnhau bod copïau o unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn flaenorol i Weinidogion Cymru o dan adran 1AA o Ddeddf 1979 gan unrhyw berson â buddiant wedi eu hanfon at y ceisydd gan Weinidogion Cymru;
(d) datgan y bydd unrhyw sylwadau o’r fath yn cael eu hystyried gan y person penodedig wrth wneud penderfyniad ar yr adolygiad;
(e) datgan y caniateir cyflwyno sylwadau ysgrifenedig pellach i’r person penodedig yn unol â rheoliad 9(2); ac
(f) datgan sut y gellir gweld copi o’r cais am adolygiad a’r dogfennau eraill sy’n gysylltiedig â’r adolygiad.
8 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad dechrau, anfon at y ceisydd a’r person penodedig ddatganiad yn nodi’r holl faterion y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu codi yn ystod yr adolygiad ac y maent yn ystyried y dylai’r person penodedig eu hystyried wrth gynnal yr adolygiad (“datganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad”).
(2) Rhaid i ddatganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad ddod gyda’r holl ddogfennau, deunyddiau a thystiolaeth y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu dibynnu arnynt yn ystod yr adolygiad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r ceisydd anfon at y person penodedig ddau gopi o unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig sydd ganddynt ynghylch datganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad fel eu bod yn dod i law o fewn y cyfnod o chwe wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad dechrau.
(4) Pan anfonir sylwadaethau ysgrifenedig at y person penodedig o dan baragraff (3) neu (5), rhaid i’r person penodedig, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael, anfon copi o unrhyw sylwadaethau o’r fath at Weinidogion Cymru.
(5) Mae’r gofyniad ym mharagraff (3) i’w ddehongli fel pe bai’n caniatáu anfon un copi yn unig o unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig at ddiben bodloni’r gofyniad hwnnw mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn dewis anfon y sylwadaethau drwy ddull cyfathrebu electronig.
RHAN 3
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bernir at ddibenion adran 1AE(5)(c) o Ddeddf 1979 bod y dogfennau a ganlyn yn ffurfio sylwadau ysgrifenedig y personau a ganlyn mewn perthynas â’r adolygiad—
(a) yn achos y ceisydd—
(i) cais a wnaed yn unol â rheoliad 5; a
(ii) unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig a wnaed o dan reoliad 8(3);
(b) yn achos Gweinidogion Cymru, datganiad Gweinidogion Cymru ar yr adolygiad a’r dogfennau, y deunyddiau a’r dystiolaeth sy’n dod gyda’r datganiad;
(c) yn achos person â buddiant, unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn flaenorol o dan adran 1AE o Ddeddf 1979 gan y person hwnnw;
(d) yn achos unrhyw berson neu gorff y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 7(1)(b), unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn flaenorol gan y fath berson neu gorff ynghylch cynnig Gweinidogion Cymru i—
(i) cynnwys yr heneb y mae adolygiad yn ymwneud â hi ar y Gofrestr; neu
(ii) gwneud diwygiad perthnasol o’r math a ddisgrifir yn adran 1AA(5)(a) o Ddeddf 1979 mewn perthynas â’r heneb ar y Gofrestr.
(2) Caiff person â buddiant neu unrhyw berson neu gorff y rhoddir hysbysiad iddo o dan reoliad 7(1)(b), yn ogystal â’r sylwadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c) neu (d) (yn ôl y digwydd), gyflwyno sylwadau ysgrifenedig pellach o dan adran 1AE(5)(c) o Ddeddf 1979, a phan fo’n gwneud hynny rhaid iddo anfon tri chopi o’r fath sylwadau at y person penodedig o fewn y cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad dechrau.
(3) Rhaid i’r person penodedig, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael unrhyw sylwadau a gyflwynir o dan baragraff (2), anfon copi o’r fath sylwadau at y ceisydd ac at Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i’r ceisydd a Gweinidogion Cymru anfon at y person penodedig ddau gopi o unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig sydd ganddynt ynghylch unrhyw sylwadau a gyflwynwyd o dan baragraff (1)(c), (d) neu (2) fel eu bod yn dod i law o fewn y cyfnod o chwe wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad dechrau.
(5) Pan fo’r person penodedig wedi cael unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig yn unol â pharagraff (4), rhaid i’r person penodedig—
(a) yn achos unrhyw sylwadaethau o’r fath a geir oddi wrth y ceisydd, anfon copi at Weinidogion Cymru; a
(b) yn achos unrhyw sylwadaethau o’r fath a geir oddi wrth Weinidogion Cymru, anfon copi at y ceisydd.Pan fo paragraffau (2) i (4) yn gosod gofyniad ar unrhyw berson neu unrhyw gorff i anfon mwy nag un copi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig neu sylwadaethau ysgrifenedig (yn ôl y digwydd) at unrhyw berson arall neu i unrhyw gorff arall, mae’r fath ofyniad i’w ddehongli fel pe bai’n caniatáu anfon un fersiwn yn unig o’r ddogfen honno at ddiben bodloni’r gofyniad hwnnw mewn unrhyw achos pan fo’r person y gosodir y gofyniad arno yn dewis anfon y sylwadau neu’r sylwadaethau drwy ddull cyfathrebu electronig.
10 
Pan fo asesydd yn cael ei benodi o dan baragraff 4(1)(b) o Atodlen A2 i Ddeddf 1979 (penderfyniadau ar adolygiadau gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru), rhaid i’r person penodedig hysbysu’r ceisydd a Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ynghylch y penodiad, enw’r person a benodir a’r materion y bydd yn rhoi cyngor arnynt.
RHAN 4
11 

(1) Pan fo’r person penodedig yn penderfynu bod adolygiad i’w gynnal drwy wrandawiad, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i—
(a) y ceisydd;
(b) Gweinidogion Cymru; ac
(c) unrhyw berson neu gorff arall y mae’r person penodedig yn ystyried eu bod yn briodol.
(2) Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) nodi’r materion penodedig, ond nid yw cynnwys y fath faterion yn yr hysbysiad yn atal y person penodedig rhag caniatáu ystyried y fath faterion eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(3) Y personau sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad yw’r rheini y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) i (c).
(4) Mae presenoldeb unrhyw berson nad oes ganddo’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad yn ddarostyngedig i ddisgresiwn y person penodedig.
12 

(1) Rhaid i’r person penodedig bennu’r dyddiad, yr amser a’r lle y cynhelir y gwrandawiad (a chaiff eu hamrywio wedi hynny).
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 13(10), rhaid i’r person penodedig roi i’r personau hynny sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad nid llai na phedair wythnos o hysbysiad ynghylch y dyddiad, yr amser a’r lle a bennir ar gyfer cynnal y gwrandawiad (ac unrhyw amrywiad dilynol iddynt).
13 

(1) Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rhan hon, mae’r weithdrefn mewn gwrandawiad i fod fel y’i pennir gan y person penodedig.
(2) Rhaid i’r person penodedig ddatgan ar gychwyn y gwrandawiad y weithdrefn y bwriedir ei mabwysiadu.
(3) Caiff unrhyw berson sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad gael ei gynrychioli gan berson arall yn lle hynny.
(4) Pan fo gan ddau neu ragor o bersonau fuddiant tebyg yn y materion sy’n cael eu hystyried yn y gwrandawiad, caiff y person penodedig ganiatáu i un neu ragor o bersonau ymddangos ar ran rhai o’r personau sydd â buddiant o’r fath, neu ar ran yr holl bersonau sydd â buddiant o’r fath.
(5) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu rhoi unrhyw dystiolaeth y mae’n ei hystyried yn amherthnasol neu’n ailadroddus.
(6) Caiff y person penodedig fwrw ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad.
(7) Caiff y person penodedig—
(a) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn gwrandawiad neu sy’n bresennol ynddo ac sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael; a
(b) gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu
(c) ond caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd o dan y fath amodau a bennir gan y person penodedig,
ond caiff unrhyw berson o’r fath gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd y gwrandawiad.
(8) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw neu dystiolaeth neu unrhyw ddogfen arall a geir gan unrhyw berson cyn dechrau’r gwrandawiad neu yn ystod y gwrandawiad ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn y gwrandawiad.
(9) Caiff y person penodedig o dro i dro ohirio’r gwrandawiad ac—
(a) pan gyhoeddir y dyddiad, yr amser a’r lle y mae’r gwrandawiad i ailddechrau cyn y gohiriad, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, gymryd camau rhesymol i roi hysbysiad o’r dyddiad, yr amser a’r lle hwnnw i unrhyw berson sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad a oedd yn absennol ar adeg y cyhoeddiad; neu
(b) pan na fo’r dyddiad, yr amser na’r lle y mae’r gwrandawiad i ailddechrau yn cael eu cyhoeddi cyn y gohiriad, rhaid iddo—
(i) pennu (a chaiff amrywio wedi hynny) y dyddiad, yr amser a’r lle hwnnw; a
(ii) yn ddarostyngedig i baragraff (10), rhoi i’r personau hynny sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad nid llai na phedair wythnos o hysbysiad ynghylch y dyddiad, yr amser a’r lle hwnnw (ac unrhyw amrywiad dilynol iddynt).
(10) Pan fo paragraff (9)(b) yn gymwys, caiff y person penodedig roi i’r personau hynny sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad lai na phedair wythnos o hysbysiad ynghylch y dyddiad, yr amser a’r lle a bennir ar gyfer ailddechrau’r gwrandawiad (ac unrhyw amrywiad dilynol iddynt) mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd, y person penodedig a Gweinidogion Cymru yn cytuno i’r fath gyfnod byrrach.
14 
Pan fo asesydd yn cael ei benodi o dan baragraff 4(1)(a) o Atodlen A2 i Ddeddf 1979, rhaid i’r person penodedig hysbysu’r personau sydd â’r hawl i ymddangos yn y gwrandawiad yn ysgrifenedig ynghylch y penodiad, enw’r person a benodir a’r materion y bydd yn rhoi cyngor arnynt.
RHAN 5
15 

(1) Pan fo’r person penodedig yn penderfynu bod adolygiad i’w gynnal drwy ymchwiliad, rhaid iddo roi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i—
(a) y ceisydd;
(b) Gweinidogion Cymru; ac
(c) unrhyw berson neu gorff arall y mae’r person penodedig yn ystyried eu bod yn briodol.
(2) Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) nodi’r materion penodedig, ond nid yw cynnwys y fath faterion yn yr hysbysiad yn atal y person penodedig rhag caniatáu ystyried y fath faterion eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(3) Y personau sydd â’r hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad yw’r rheini y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) i (c).
16 

(1) Rhaid i’r person penodedig bennu’r dyddiad, yr amser a’r lle y mae’r ymchwiliad i’w gynnal (a chaiff eu hamrywio wedi hynny).
(2) Rhaid i’r person penodedig roi i’r personau hynny sydd â’r hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad nid llai na phedair wythnos o hysbysiad ynghylch y dyddiad, yr amser a’r lle a bennir ar gyfer cynnal yr ymchwiliad (ac unrhyw amrywiad dilynol iddynt).
(3) Caiff y person penodedig wneud trefniadau pellach ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i gynnal yr ymchwiliad fel y mae’n ystyried ei fod yn briodol o dan yr amgylchiadau.
17 

(1) Caiff y person penodedig drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i unrhyw berson neu gorff sydd â’r hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad, erbyn y fath ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, anfon at y person penodedig a’r fath bersonau neu gyrff eraill a bennir yn yr hysbysiad—
(a) datganiad yn unol â pharagraff (2) (“datganiad ymchwiliad”); a
(b) copi o bob dogfen ar y rhestr o’r fath ddogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad ymchwiliad hwnnw.
(2) Rhaid i ddatganiad ymchwiliad gynnwys—
(a) datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion yr achos sy’n ymwneud â’r materion penodedig y mae person yn bwriadu eu cyflwyno mewn ymchwiliad;
(b) rhestr o’r dogfennau (os oes rhai) y mae’r person sy’n cyflwyno’r fath achos yn bwriadu cyfeirio atynt, dibynnu arnynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth; ac
(c) rhestr o’r tystion gan bennu—
(i) y personau sydd i roi tystiolaeth, neu a elwir i roi tystiolaeth, yn yr ymchwiliad;
(ii) y materion y mae’r fath bersonau i roi tystiolaeth mewn cysylltiad â hwy; a
(iii) cymwysterau perthnasol y fath bersonau i wneud hynny.
18 

(1) Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rhan hon, mae’r weithdrefn mewn ymchwiliad i fod fel y’i pennir gan y person penodedig.
(2) Rhaid i’r person penodedig ddatgan ar gychwyn yr ymchwiliad y weithdrefn y bwriedir ei mabwysiadu.
(3) Caiff unrhyw berson sydd â’r hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad gael ei gynrychioli gan berson arall yn lle hynny.
(4) Pan fo gan ddau neu ragor o bersonau fuddiant tebyg yn y mater sy’n destun ymchwiliad, caiff y person penodedig ganiatáu i un neu ragor o bersonau ymddangos ar ran rhai o’r personau sydd â buddiant o’r fath, neu ar ran yr holl bersonau sydd â buddiant o’r fath.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae gan unrhyw berson sydd â’r hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad yr hawl i alw tystiolaeth, croesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth a gwneud datganiadau i gloi.
(6) Caiff y person penodedig wrthod caniatáu—
(a) rhoi tystiolaeth neu gyflwyno tystiolaeth;
(b) croesholi personau sy’n rhoi tystiolaeth; neu
(c) cyflwyno unrhyw fater arall,
y mae’r person penodedig yn ystyried ei fod yn amherthnasol neu’n ailadroddus.
(7) Caiff y person penodedig fwrw ymlaen ag ymchwiliad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â’r hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad.
(8) Caiff y person penodedig—
(a) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad neu sy’n bresennol ynddo ac sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael; a
(b) gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd; neu
(c) ond caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd o dan y fath amodau a bennir gan y person penodedig,
ond caiff unrhyw berson o’r fath gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i’r person penodedig cyn diwedd yr ymchwiliad.
(9) Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw neu dystiolaeth neu unrhyw ddogfen arall a geir gan unrhyw berson cyn dechrau’r ymchwiliad neu yn ystod yr ymchwiliad ar yr amod bod y person penodedig yn datgelu hynny yn yr ymchwiliad.
(10) Caiff y person penodedig o dro i dro ohirio’r ymchwiliad ac—
(a) pan gyhoeddir y dyddiad, yr amser a’r lle y mae’r ymchwiliad i ailddechrau cyn y gohiriad, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, gymryd camau rhesymol i roi hysbysiad o’r dyddiad, yr amser a’r lle hwnnw i unrhyw berson sydd â’r hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad a oedd yn absennol ar adeg y cyhoeddiad; neu
(b) pan na fo’r dyddiad, yr amser na’r lle y mae’r ymchwiliad i ailddechrau yn cael eu cyhoeddi cyn y gohiriad, rhaid iddo—
(i) pennu (a chaiff amrywio wedi hynny) y dyddiad, yr amser a’r lle hwnnw; a
(ii) yn ddarostyngedig i baragraff (11), rhoi i’r personau hynny sydd â’r hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad nid llai na phedair wythnos o hysbysiad ynghylch y dyddiad, yr amser a’r lle hwnnw (ac unrhyw amrywiad dilynol iddynt).
(11) Pan fo paragraff (10)(b) yn gymwys, caiff y person penodedig roi i’r personau hynny sydd â’r hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad lai na phedair wythnos o hysbysiad ynghylch y dyddiad, yr amser a’r lle a bennir ar gyfer ailddechrau’r ymchwiliad (ac unrhyw amrywiad dilynol iddynt) mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd, y person penodedig a Gweinidogion Cymru yn cytuno i’r fath gyfnod byrrach.
19 
Pan fo asesydd yn cael ei benodi o dan baragraff 4(1)(a) o Atodlen A2 i Ddeddf 1979, rhaid i’r person penodedig hysbysu’r personau sydd â’r hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad yn ysgrifenedig ynghylch y penodiad, enw’r person a benodir a’r materion y bydd yn rhoi cyngor arnynt.
RHAN 6
20 

(1) Caiff y person penodedig yn ysgrifenedig, ar unrhyw adeg cyn iddo roi ei benderfyniad ar yr adolygiad, ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd, Gweinidogion Cymru, unrhyw berson â buddiant neu unrhyw berson neu gorff arall ddarparu’r fath wybodaeth bellach a bennir sy’n berthnasol i’r adolygiad.
(2) Rhaid darparu’r fath wybodaeth yn ysgrifenedig o fewn y fath gyfnod a bennir gan y person penodedig.
(3) Pan fo’r person penodedig yn gwneud gwybodaeth bellach yn ofynnol o dan baragraff (1), rhaid iddo roi cyfle i’r ceisydd a Gweinidogion Cymru gyflwyno sylwadaeth ar yr wybodaeth a ddarperir felly yn unol â’r fath drefniadau y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
21 

(1) Caiff y person penodedig ar unrhyw adeg gynnal—
(a) arolygiad ar ei ben ei hun o’r heneb y mae’r adolygiad yn ymwneud â hi; neu
(b) arolygiad o’r heneb yng nghwmni unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn—
(i) y ceisydd;
(ii) unrhyw berchennog neu feddiannydd arall yr heneb sy’n hysbys i’r person penodedig;
(iii) Gweinidogion Cymru; a
(iv) unrhyw berson arall y mae’r person penodedig yn ystyried ei fod yn briodol.
(2) Pan fo’r person penodedig mewn unrhyw achos yn bwriadu cynnal arolygiad, rhaid iddo roi i bob un o’r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) y fath hysbysiad sy’n ymddangos yn rhesymol iddo o dan yr amgylchiadau—
(a) ynghylch dyddiad ac amser yr arolygiad arfaethedig; a
(b) ynghylch pa un a yw—
(i) y person penodedig yn bwriadu cynnal arolygiad ar ei ben ei hun; neu
(ii) unrhyw un neu ragor o’r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) wedi ei wahodd neu eu gwahodd i fynd gyda’r person penodedig wrth gynnal yr arolygiad.
(3) Nid yw’r person penodedig yn rhwym i ohirio arolygiad os nad yw unrhyw berson a wahoddir i fynd gydag ef o dan baragraff (2)(b)(ii) yn bresennol ar yr amser penodedig.
22 
Caiff y person penodedig ar unrhyw adeg mewn unrhyw achos penodol ganiatáu rhagor o amser i gymryd unrhyw gam y mae’n ofynnol ei gymryd neu y galluogir ei gymryd yn rhinwedd y Rheoliadau hyn; ac mae’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at gyfnod y mae’n ofynnol cymryd unrhyw gam o’i fewn, neu y galluogir cymryd unrhyw gam o’i fewn, i’w dehongli yn unol â hynny.
23 

(1) Rhaid i’r person penodedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl eu cael, sicrhau bod copïau o’r deunyddiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ar gael i edrych arnynt.
(2) Y deunyddiau yw—
(a) y cais am yr adolygiad;
(b) unrhyw ddatganiad ymchwiliad, sylwadau eraill, sylwadaethau, gwybodaeth neu ddogfennau eraill a anfonir at y person penodedig yn ystod yr adolygiad.
RHAN 7
24 
Rhaid i’r person penodedig, ar ôl dod i’r casgliad nad yw unrhyw dystiolaeth bellach yn ofynnol er mwyn ei alluogi i wneud ei benderfyniad ar yr adolygiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol roi hysbysiad ynghylch ei benderfyniad, a’r rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw, i—
(a) y ceisydd;
(b) Gweinidogion Cymru;
(c) pob person â buddiant; a
(d) unrhyw berson y rhoddir hysbysiad iddo o dan reoliad 7(1)(b).
RHAN 8
25 

(1) Caiff y person penodedig roi cyfarwyddyd bod y costau yr eir iddynt mewn perthynas ag adolygiad (neu ba faint bynnag ohonynt y caiff y person penodedig roi cyfarwyddyd yn ei gylch) i’w talu gan—
(a) y ceisydd;
(b) Gweinidogion Cymru;
(c) unrhyw barti arall i’r adolygiad.
(2) Caiff y costau yr eir iddynt gan y person penodedig mewn perthynas ag adolygiad gynnwys—
(a) yr holl gostau gweinyddol yr eir iddynt ac, yn benodol, y fath swm rhesymol a bennir gan y person penodedig mewn cysylltiad â chostau staff cyffredinol a gorbenion; a
(b) y costau yr eir iddynt wrth baratoi gwrandawiad neu ymchwiliad nad yw’n digwydd yn y pen draw.
(3) Caiff y person penodedig wneud gorchmynion o ran costau’r ceisydd, Gweinidogion Cymru neu unrhyw barti arall i’r adolygiad, ac o ran y personau y mae’r fath gostau i’w talu ganddynt.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru
4 Mai 2017