
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1979” (“the 1979 Act”) yw Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979;
 ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
 ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016;
 ystyr “y Gofrestr” (“the Schedule”) yw’r Gofrestr o henebion a lunnir ac a gynhelir o dan adran 1 o Ddeddf 1979.
2 
Y diwrnod penodedig i adran 30(6) o Ddeddf 2016 ddod i rym, i’r graddau y mae’n rhoi pŵer i wneud Gorchmynion o dan Ddeddf 1990, yw drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.
3 
Y diwrnod penodedig i adran 34 o Ddeddf 2016 ddod i rym yw 8 Mai 2017.
4 
Y diwrnod penodedig i’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2016 ddod i rym yw 31 Mai 2017—
(a) adran 4;
(b) adran 25;
(c) adran 26; a
(d) adrannau 35 i 37.
5 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 ddod i rym, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yw 31 Mai 2017—
(a) adran 3;
(b) adran 5;
(c) adran 24;
(d) adran 30(6);
(e) Atodlen 1; ac
(f) Atodlen 2.
6 

(1) Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1979 a wnaed gan adrannau 3 a 4 o Ddeddf 2016 yn gymwys i gynnig i gynnwys heneb yn y Gofrestr neu i eithrio heneb o’r Gofrestr, neu, yn achos heneb a nodir yn y Gofrestr drwy gyfeirio at fap a gynhelir gan Weinidogion Cymru, i wneud diwygiad perthnasol mewn perthynas â’r heneb, pan fo’r cynnig hwnnw yn destun, neu wedi bod yn destun, ymgynghoriad a ddyroddir rhwng 1 Ionawr 2017 a 31 Mai 2017.
(2) Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wnaed gan adrannau 24 a 26(1) i (3), (7), (8), (10) i (13), (14)(b) ac (16) o Ddeddf 2016 yn gymwys i gynnig i ddiwygio’r rhestr o adeiladau a lunnir neu a gymeradwyir o dan adran 1 o Ddeddf 1990 pan fo’r cynnig hwnnw yn destun, neu wedi bod yn destun, ymgynghoriad a ddyroddir yn unol ag adran 1 o Ddeddf 1990 cyn 31 Mai 2017.
(3) Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wnaed gan adrannau 25 a 26(4) i (6), (8) i (10), (12)(b)(ii), (13), (14)(a) a (15) o Ddeddf 2016 yn gymwys i hysbysiad diogelu adeilad a gyflwynir yn unol ag adran 3 o Ddeddf 1990 cyn 31 Mai 2017.
(4) Nid yw’r diwygiad i Ddeddf 1990 a wnaed gan adran 30(6) o Ddeddf 2016 yn gymwys i adennill treuliau gwaith a gyflawnir o dan adran 54 o Ddeddf 1990 pan fo hysbysiad o’r bwriad i wneud y gwaith hwnnw wedi ei roi i berchennog yr adeilad cyn 31 Mai 2017.
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru
3 Mai 2017