
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 18 Mai 2017.
2 

(1) Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rheoliad 3 (dehongli: offerynnau Ewropeaidd) yn lle’r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” rhodder—“
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd;”.
(3) Yn Rhan 1 o Atodlen 2 (labeli swyddogol a dogfennau swyddogol), ar ôl paragraff 7(b)(i), mewnosoder—“
(ia) rhif cyfresol wedi ei neilltuo yn swyddogol;”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2017