
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965; ac
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 i rym ar 10 Ebrill 2017—
(a) adran 19(1) i (5) a (7) (cywiro); a
(b) paragraffau 1, 2(1) a (2)(a) i (c), 3(1) a (2)(a) i (d), 4(1) i (5), 5(1), 5(2), 6(1), 6(2), 7(1), 7(2), 8(1), 8(2) a 9(1) i (3) o Atodlen 2 (tir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965).
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 i rym at bob diben sy’n weddill ar 10 Ebrill 2017—
(a) adran 19(6) (cywiro);
(b) adran 22 (tir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965); ac
(c) paragraffau 2(2)(d) a (3), 3(2)(e) a (3), 4(6), 5(3), 6(3), 7(3), 8(3), 9(4) a 10 o Atodlen 2 (tir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965).
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Ebrill 2017