
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Ardal) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adroddiad asesiad poblogaeth” (“population assessment report”) yw’r adroddiad y mae’n ofynnol iddo gael ei lunio yn unol â rheoliad 5 o’r rheoliadau asesiadau poblogaeth;ystyr “Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol” (“Regional Partnership Board”) yw un o’r byrddau y mae’n ofynnol iddynt gael eu sefydlu yn unol â rheoliadau 2 i 8 o’r rheoliadau trefniadau partneriaeth;ystyr “Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol perthnasol” (“relevant Regional Partnership Board”) yw’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sydd wedi ei sefydlu ar gyfer ardal y corff perthnasol;mae i “corff perthnasol” (“relevant body”) yr un ystyr ag yn adran 14A(1) o’r Ddeddf;ystyr “cynllun ardal” (“area plan”) yw’r cynllun y mae’n ofynnol i gorff perthnasol ei lunio yn unol ag adran 14A(2) o’r Ddeddf;ystyr “cynllun ardal ar y cyd” (“joint area plan”) yw cynllun ardal sydd wedi ei lunio gan gorff perthnasol ar y cyd â chorff perthnasol arall yn unol â’r pwerau yn adran 14A(4) neu (5) o’r Ddeddf;ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;ystyr “y rheoliadau asesiadau poblogaeth” (“the population assessments regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015;ystyr “y rheoliadau trefniadau partneriaeth” (“the partnership arrangements regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015.
2 

(1) Rhaid cyhoeddi’r cynllun ardal cyntaf (neu, os yw’n gymwys, y cynllun ardal cyntaf ar y cyd) erbyn 1 Ebrill 2018.
(2) Rhaid cyhoeddi cynlluniau ardal dilynol (neu, os yw’n gymwys, cynlluniau ardal ar y cyd) o fewn un flwyddyn ar ôl y dyddiad y mae’n ofynnol cyhoeddi’r adroddiad asesiad poblogaeth diweddaraf.
3 
Mewn achos pan fo adendwm i adroddiad asesiad poblogaeth yn cael ei ddyroddi yn unol â rheoliad 7 o’r rheoliadau asesiadau poblogaeth, rhaid i’r corff perthnasol sydd wedi llunio cynllun ardal yn dilyn yr adroddiad hwnnw (neu, os yw’n gymwys, y cyrff perthnasol sydd wedi llunio cynllun ardal ar y cyd yn dilyn yr adroddiad hwnnw)—
(a) adolygu’r cynllun ardal diweddaraf (neu’r cynllun ardal ar y cyd, os yw’n gymwys);
(b) ystyried a oes angen diwygio’r cynllun;
(c) os penderfynir diwygio’r cynllun, llunio cynllun diwygiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol yn dilyn dyroddi’r adendwm;
(d) cyhoeddi unrhyw gynllun diwygiedig.
4 
Rhaid i gorff perthnasol sydd wedi llunio cynllun ardal (neu, os yw’n gymwys, y cyrff perthnasol sydd wedi llunio cynllun ardal ar y cyd)—
(a) cynnwys copi o’r cynllun (ac, os yw’n gymwys, copi o unrhyw gynllun diwygiedig) fel rhan o’r adroddiad blynyddol a gyhoeddir gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol perthnasol yn unol â rheoliad 12 o’r rheoliadau trefniadau partneriaeth, a
(b) cyflwyno unrhyw gynllun neu gynllun diwygiedig o’r fath i Weinidogion Cymru.
5 

(1) Wrth lunio cynllun ardal neu gynllun ardal diwygiedig (neu, os yw’n gymwys, cynllun ardal ar y cyd neu gynllun ardal ar y cyd diwygiedig), rhaid i gorff perthnasol (neu, yn achos cynllun ardal ar y cyd, y cyrff perthnasol) gymryd camau rhesymol i ymgysylltu â’r canlynol—
(a) pobl yn yr ardal y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am ofal a chymorth,
(b) pobl yn yr ardal sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blant y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am ofal a chymorth, ac
(c) gofalwyr yn yr ardal y mae arnynt neu y gall fod arnynt anghenion am gymorth.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “yr ardal” (“the area”) yw’r ardal sydd wedi ei chwmpasu gan y cynllun ardal (neu, os yw’n gymwys, y cynllun ardal ar y cyd).
(3) Rhaid i gorff perthnasol (neu, yn achos cynllun ardal ar y cyd, y cyrff perthnasol) sefydlu gweithdrefn ar gyfer yr ymgysylltu sy’n ofynnol gan baragraff (1).
6 

(1) Wrth lunio cynllun ardal neu gynllun ardal diwygiedig (neu, os yw’n gymwys, cynllun ardal ar y cyd neu gynllun ardal ar y cyd diwygiedig), rhaid i gorff perthnasol (neu, yn achos cynllun ardal ar y cyd, y cyrff perthnasol) ymgysylltu ag unrhyw sefydliad sector preifat, unrhyw sefydliad trydydd sector neu unrhyw gorff cyhoeddus y mae’n credu ei fod yn ymwneud â’r ddarpariaeth o ofal a chymorth neu wasanaethau ataliol, neu fod ganddo fuddiant yn y ddarpariaeth o ofal a chymorth neu wasanaethau ataliol, i’r boblogaeth yn yr ardal sydd wedi ei chwmpasu gan y cynllun.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
 ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw corff (pa un a yw’n gorfforaethol neu’n anghorfforedig) sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus. At ddiben y diffiniad hwn, mae swyddogaeth gyhoeddus yn swyddogaeth sy’n swyddogaeth o natur gyhoeddus at ddibenion Deddf Hawliau Dynol 1998;mae i “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yr un ystyr ag yn adran 16(2) o’r Ddeddf.
7 
Rhaid i gorff perthnasol (neu, yn achos cynllun ardal ar y cyd, y cyrff perthnasol) gymryd camau priodol i fonitro a gwerthuso’r gwasanaethau a gweithredoedd eraill a nodir yn y cynllun ardal (neu, os yw’n gymwys, y cynllun ardal ar y cyd).
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2017